DRAENEN DDU

gan Charley Miles cyfieithiad Angharad Tomos

AR YR WYNEB MAE’N BLANHIGYN CWBL WAHANOL, OND YR UN YW’R GWRAIDD

Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.

 

Cyfieithiad Angharad Tomos o ddrama Charley Miles, Blackthorn, a ddenodd sylw mawr yng Ngŵyl Caeredin llynedd.

Mae cefn gwlad yn newid a’r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad. Mae’r ddrama yma’n siŵr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw…

Taith o amgylch cymunedau Cymru rhwng Mai 5 – 30, 2020.

FIENNA

gan Siôn Eirian

Yn dilyn llwyddiannau digamsyniol Garw (2015) ac Yfory (2017) mae’r dramodydd gwobrwyol Siôn Eirian wedi ei gomisiynu i ysgrifennu’r drydedd yn ei ddramâu gwleidyddol i Bara Caws. Bydd tair rhan i’r ddrama hon — triptych — a’r themâu yw hil, ffiniau, a sut mae pobl a gwledydd yn diogelu a’n gwthio eu hunaniaeth ar eraill. Sut mae mae Canolbarth Ewrop yn ymdrin â’r ‘Arall’?

Perfformiadau: Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 3 – 8 Awst a taith 8 – 26 Medi, 2020

SIOE GLWB 

Yna yn nhymor y Nadolig 2020 edrychwn ymlaen at deithio o amgylch Cymru gyda Sioe Glwb newydd sbon. Cyn hir byddwn yn hysbysebu i weld pwy fyddai â diddordeb mewn ‘sgwennu sioe o’r fath yma – croeso i bawb ymgeisio!

Teithio Cymru rhwng Tachwedd 24 – Rhagfyr 19