Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws
  • Hafan
  • Sioeau
    • Brêcshit
    • Gair o Gariad
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English
  • Hafan
  • Sioeau
    • Brêcshit
    • Gair o Gariad
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English

All Posts in “Newyddion”

Category

Cofio Trefor

March 29, 2018 / no comments

Roedd Trefor yn un o garedigion mawr y theatr Gymraeg, a’n ffyddlon iawn ei gefnogaeth i Bara Caws ers y dechrau’n deg. Yn ei ffordd ddihafal ei hun creodd lu o bortreadau cofiadwy ar y teledu ac ar y llwyfan.

Ddes i ar ei draws am y tro cyntaf pan fowndiodd yr Athro Drama Dros Dro i mewn i neuadd Ysgol Maes Garmon yr Wyddgrug yn gwisgo siwt wen – dramatig ta be’? Flynyddoedd wedyn cefais y fraint o rannu’r un llwyfan mewn sawl cynhyrchiad, rhai’n arbennig wedi eu serio ar fy nghof…cofio’i bortread o Gwydion yn Blodeuwedd gan Gwmni Theatrig, a llygaid mileinig a chaled y dewin yn treiddio i enaid dyn ac yn wrthbwynt llwyr i ymarweddiad ymddangosiadol soffistigedig

ei bortread o’r cymeriad aml-haenog, cymhleth hwn, a Peter Stein – y cawr o gyfarwyddwr o’r Almaen yn awyddus iddo fynd draw i weithio gyda’i gwmni ef yn Berlin…ac yna yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Tair Chwaer, ‘roedd gofyn iddo gyflwyno presant pen-blwydd i mi ac ar y noson olaf dyma’i glywed yn dweud, “Irina, mae Protopopov wedi gyrru ffesant pen-blwydd i chi”, finnau’n meddwl bod hi’n od bod Trefor o bawb wedi cam-ynganu, gan ei fod mor sicr ei stondin, tan i mi droi a’i weld yn sefyll yno gyda ffesant marw go iawn yn hongian o’i law – y darlun yn gwbl addas ar gyfer y sioe wrth gwrs, a’r gynulleidfa’n amau dim! Un castiog, llawn hwyl bob tro.

Ar hyd y blynyddoedd daeth i weithio at Bara Caws sawl tro mewn sioeau mor amrywiol â Gweledigaethau (unwaith eto mewn siwt wen!), Diana, Henwalia a’r sioe glwb Yr Alamo. Y tro dwytha welson ni o oedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn llynedd, ac er yn amlwg yn sâl fe ymunodd â ni i ddathlu pen-blwydd y Cwmni’n ddeugain oed, yn driw a chefnogol tan y diwedd un. Diolch Tref.

trefor

Cofio Meic Povey

December 13, 2017 / no comments

“Cyfaill, cymwynaswr, talent, gwrandäwr, arsyllwr…sut mae disgrifio Meic? Bu’n gefnogwr brwd o Bara Caws ers y cychwyn, ac mae ei waddol i’r theatr a’r cyfryngau yng Nghymru yn amhrisiadwy. O’m rhan i cefais gyfle i weithio ag ef fel cyd-actor; cyfle i bortreadu rhai o’i gymeriadau mwyaf cofiadwy; ac yn fwyaf diweddar y pleser o esgor ar berthynas newydd efo fo fel cyfarwyddwr o’i waith. ‘Roedd ei ddisgyblaeth, ei graffter, ei ddiddordeb, ei chwilfrydedd, ei hoffter o’i gymeriadau, ac o drafod a sgwrsio, a rhoi’r byd yn ei le mewn modd dwys a’r modd mwyaf pryfoclyd heb ei ail. ‘Roedd wedi gyrru drama newydd sbon at Bara Caws ddechrau eleni, a ‘roedden ni wrthi’n trio trefnu cyfarfod i drafod y gwaith ymhellach pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. Deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin, ac yn ei ffordd ddihafal ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r gwaith asap – a fel ddeudodd Catrin – “Pwy yda ni i ignorio hynny?”… Felly bydd hi’n bleser cael llwyfannu Dwyn i Gof y flwyddyn nesaf ‘ma. Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio ar y daith hon, ond diolch – unwaith eto – am y fraint.”

Betsan Llwyd 


“Mi oedd ‘na ugain mlynedd yn mynd i basio fel y gwynt rhwng i mi rannu set hwyliog ‘Y Dyn na’th ddwyn y Nadolig’ hefo Mordecai ac eistedd i drafod sioe glybia’ oedd Meic yn awyddus ei hysgrifennu i Bara Caws yn 2004 ym mar y Prince of Wales yng Nghriccieth. Nid y Windsor clustiog ond tywysog arall oedd ganddo mewn golwg fel testun y sioe – Owain Min Dŵr – a thrafferthion dychmygol, cymdeithasol a chorfforol di-chwaeth, arwr ein cenedl oedd ei fyrdwn. Cyn fy nghyfnod i yn Bara Caws mi oedd Meic wedi ysgrifennu sawl sioe bwysig i’r cwmni ond bellach ‘roedd o’n awyddus i fentro i gors y Sioe glybiau. Fel y Mordecai gynt mi oedd Meic yn gwybod yn union be oedd o isio, a be oedd Meic isio yn ei sioe glybiau oedd rhegi – lot o regi. Chwe mis yn ddiweddarach mi oedd Crach Ffinant yn dod yn ei flaen i agor y sioe gyda’r lein :

‘Dw i’n gwbod be’ ‘dach chi’n feddwl..! Sioe glybia’ arall yn llawn o jocs gwael a rhegfeydd aflan, yn son am ddim ond am wastraff naturiol a dirgelwch merchaid! Wel – dim ff** o beryg ylwch!

Yn stod y chwe mis arweiniodd i’r lein ‘fythgofiadwy’ yna mi oeddem wedi cael oriau o gysur a Meic wedi profi i ni mai nid y rhegi oedd yn bwysig iddo o gwbwl. Un modd o fynegiant oedd hwnnw ac un oedd yn orchudd garw tros eiconoclastiaeth clyfar a chenedlgarwch, dros gariad at y dweud a’r cymeriadu. Tu ôl i’r maswedd bras ‘roedd ‘na feddwl ac ystyr a gofal. Fel yn y gwaith felly yn y dyn, tu ôl i’r hyder mawr a’r chwerthiniad heintus ‘roedd ‘na ddwysder a chanol moesol a’r dewrder i’w fynegu. Mae ei gyfraniad i fyd y ddrama yng Nghymru yn ddifesur a’n dyled iddo fel cwmni yn fawr. Dwi’n falch o fod wedi cael ei nabod ac ydw i’n mynd i anghofio cael y fraint o gydweithio gyda Meic ? Wel – dim ff** o beryg ylwch!”

Tony Llewelyn 


“Tua troad y ganrif roedda ni’n dau fwy neu lai ‘dan glo’ am rai wythnosa’ mewn stafell yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, yn trio llunio cyfres deledu. Dyna pryd y dois i i’w adnabod o’n iawn a doedd hynny ddim yn anodd oherwydd roedd ‘na sawl peth yn gyffredin rhyngddom gan ein bod ill dau o’r un math o gefndir gwledig digon llwm a’r ffaith ein bod wedi gadael yr ysgol yn llafna’ pymtheg oed.

Er bod yr amgylchiada’n ddyrys a’r pwysa’n o drwm ar ein sgwydda roedd hi’n bleser, ac yn fraint hefyd, cael cydweithio efo fo. Roedd o bob amsar mewn hwylia da, byth yn oriog, a fuo ‘na run gair croes rhyngddo ni yn ystod y cyfnod. Y boddhad mwya heb os oedd cael gwrando arno fo’n deud sdraeon a’i wylio’n mynd trwy ei betha. Roedd ‘na ryw ffenast fach gron yn nrws y stafell a bob yn hyn a hyn mi fydda fo’n neidio’n sydyn o’i gadair cyn llamu at y drws, gosod ei drwyn ar y gwydr, a gweiddi: “They’re all cunts out there!” ar dop ei lais. ‘Wn i ddim o ble y deuai’r chwiw ond roedd o’n berfformiad arbennig. I mi, fo oedd y William Goldman Cymraeg. Roedd ganddo storfa helaeth o straeon a sgandals wedi eu hel yn ystod gyrfa hir ac amrywiol ym myd ffilm, theatr a theledu ac roedda nhw’n werth eu clywed. Dwi’n cofio ei siarsio ryw dro i’w rhoi nhw i lawr ar gof a chadw, wn i ddim os y gwnaeth o a’i peidio.

Coffa da am ddyn a oedd yn fodlon ‘dod i’r adwy’ ac am gwmnïwr ffraeth a gipwyd gan y Cychwr ar ddiwrnod fy mhenblwydd.”

Twm Miall


“Y cardyn ‘Dolig cynta’ ar y mat bob blwyddyn, ac arno un enw ac un brif-lythyren…’Povey, X.’ A phob blwyddyn mi oedd ei lawsgrifen yn codi gwên a chynhesrwydd-tu-mewn am atgofion hynod hapus yn ei gwmni. Chwerthwr swnllyd, yn enwedig ar ben ei jôcs ei hun! Dwi’n cofio bod yn barod i fynd ar y llwyfan i neud perfformiad o ‘Wal’ [Aled Jones Williams] yn Neuadd Llanofer flynyddoedd yn ôl, dim ond rhyw ddau neu dri yn y gynulleidfa, a chlywed llais Povey yn cerdded i mewn drw’r neuadd wag, ista i lawr, a  gweiddi ar Ber neu Ems yn y cefn – “Dwi’m yn cymyd sêt neb yn fama na’dw?!” cyn i’w chwerthiniad harti adleisio dros y lle a chodi’r wên arferol ar wynebau Maldwyn a finnau, gefn llwyfan.

Pobol oedd petha’ Povey. Oedd, mi oedd o’n Debyg Iawn i Ti a Fi – a dyna pam yr oedd ei gymeriadau fo yn ymddwyn ac yn swnio mor gredadwy ar y dudalen – ond, oherwydd ei ddawn a’i ddisgyblaeth di-flino, mi oedd o’n wahanol iawn i bob un ohona ni.   Yn ôl Meic, yr hyn oedd yn brawf ac yn fesur o lwyddiant awdur oedd ei ‘body of work,’ a phrin y gall neb ddod yn agos at nifer, na dylanwad, campweithiau Povey dros y deugain mlynedd dwaetha’. Be’ ddysgish i gynno fo? Bod gwaith caled a thrylwyr yn gallu bod yn lwmp o hwyl. Fel ffigwr cyhoeddus, ac yn sgîl ei waddol fel sgwennwr, ma’ Cymru wedi colli cawr. Mae’r golled i’r teulu, wrth gwrs, yn mynd i fod yn un llawer iawn mwy poenus. Mae ein cydymdeimlad a’n cofion cynhesaf ni i gyd yn estyn atyn nhw rwan. Diolch am gael rhannu dipyn o’r egni a’r tân. Ffrind ac arwr yn un!

O hyn ymlaen, yn ‘y nghalon i fydd ‘Povey. X’, dim ar y mat. Diolch mêt. Merf. X.”

Merfyn Pierce Jones 


“Anodd meddwl na welwn ni byth o Meic eto   – mor annheg ei fod wedi gorfod ein gadael mor fuan. ‘Roedd yn ffrind annwyl a charedig a phob amser yn llawn hwyl –  dwi’n gweld ei wên ddireidus pan dwi’n meddwl amdano.   ‘Roedd yn un o’n dramodwyr gorau ni yng Ngymru ac mor ddisgybledig wrth ei waith.   Mae’r ffilm â ysgrifennodd rhai blynyddoedd yn ôl – ‘Nel’ gyda Beryl Williams yn y prif ran –  yn aros yn y cof,  a’i ddrama ‘Diwedd y Byd’ yn fy nhyb i yn  gampwaith.   Mi fydd colled a bwlch enfawr ar ei ôl  – mae ei  gyfraniad i fyd y theatr a theledu wedi bod yn amhrisiadwy. Cwsg yn dawel Meic – mi oedda ti’n spesial.    Fy nghydymdeimlad dwysaf a’r teulu i gyd.”

Linda Brown 

povey-2
povey-3

Cofio Iola

December 1, 2017 / no comments

“Teg dweud, dybiwn ni, heb Iola fyddai Bara Caws ddim yn bod, a heb Bara Caws byddai tirwedd y theatr yng Nghymru wedi datblygu’n un tra gwahanol.

Bu i rai o aelodau presennol y Cwmni gyd-weithio â hi am flynyddoedd, ar gynyrchiadau cofiadwy fel Bargen a Bynsan Binc, ond o’m rhan i, gweld y criw gwreiddiol yn cyflwyno Hwyliau’n Codi yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ddiwedd y 1970au agorodd fy llygaid i bosibiliadau gwirioneddol gyffrous theatr Gymraeg, a pherfformiad Iola wedi serio ar fy nghof.

Bu’n gefnogol i waith y Cwmni dros y degawdau, a’r galon yn curo’n gyflymach bob tro y byddai yn y gynulleidfa – yn feirniad craff, gonest, gwrthrychol a deallus. Y tro diwethaf i mi gael sgwrs iawn hefo hi oedd yn Pontio yn gynharach eleni, hithau’n fy holi’n dwll a’n gwrando’n astud wrth i ni drafod rhai o ddyheadau Bara Caws ar gyfer y blynyddoedd nesaf, a’r ‘pam’ a’r ‘sut’ yn greiddiol i’w meddylfryd am y theatr yng Nghymru yn gyffredinol.

Diolch am dy weledigaeth, dy ysbrydoliaeth a dy gefnogaeth bob tro.”

Betsan Llwyd 


“Rebel oedd Iola. Dynes oedd yn malio, yn enwedig am y Gymraeg, y theatr a gwleidyddiaeth ac efo’i meddwl praff a’i hiwmor unigryw, yn ei helfen yn sbarduno trafodaeth.

Aeth i garchar am weithredu dros ail iaith a fabwysiadodd yn angerddol a bu’n un o sylfaenwyr cwmni theatr arloesol Bara Caws oedd â’r dyhead i newid pethau yng Nghymru. Cynigiwyd arlwy gyffrous oedd yn herio’r drefn gan wneud y theatr Gymraeg yn fwy perthnasol i fywydau pobol yng Ngwynedd a thu hwnt, ac yn galon i hyn oll oedd perfformiadau syfrdanol Iola a’i dyfeisgarwch fel awdur a chyfarwyddwraig. Trafod syniadau oedd ei phethau, wastad efo rhywbeth annisgwyl i’w daflu i mewn i’r pair i herio a chreu deialog allai ddatblygu’n ddadl danbaid ar adegau ond yn egni cadarnhaol difyr bob amser. Gyda’i meddwl treiddgar dadansoddol, roedd yn cwestiynu popeth i geisio deall cymlethdodau dyrys a doniol ein hoes fel y gallai uniaethu efo a chefnogi pobol oedd â safbwyntiau mor wahanol. Diolch am fod yn gyfaill ddi-hafal, yn ysbrydoliaeth ac yn hwyl – bu’n fraint! Fydd y byd na Chymru fyth r’un fath heb rebel a gyfoethogodd cymaint o fywydau. Diolch Iola.”

Sioned Huws 


“Gweld Iola gyntaf pan o’n i’n fyfyriwr yn Aberystwyth yn y chwedegau. Dyna lle ‘roedd hi’n sefyll y tu allan i gynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd Talybont, yn dosbarthu taflenni, yn ei chrys-T gwyn a thafod y ddraig goch arno. ‘Roedd hi’n hyderus, herfeiddiol…a hardd! Geneth efo tân yn ei  chalon – fel ei mam, yr ymgyrchwraig  danllyd dros yr iaith, Mrs. Millicent Gregory.

Ychydig flynyddoedd wedyn, a hithau bellach yn dechrau gwneud gyrfa actio iddi hi ei hun, dyma ddod ar ei thraws yn y Gogledd – ac nid Gogledd Cymru chwaith.  ‘Roedd Val a Sharon, Gwyn  Parry, Grey a minnau wrthi’n creu sioe newydd efo Theatr Antur, adran o Gwmni Theatr Cymru. Ar yr un pryd ‘roedd cynhyrchiad arall yn digwydd yn y Cwmni sef IFAS Y TRYC, gyda Stewart Jones, a phwy oedd yn actio artist a merch secsi yn hwnnw ond Iola! Cofio’r ddau gynhyrchiad yn ymarfer efo’i gilydd yn York o bob man – am y rheswm fod cynhyrchiad arall (eto fyth) Wilbert Lloyd Roberts, UNDER MILK WOOD, yn chwarae yn yr Yorkshire Playhouse, a chan fod rhai actorion yn chwarae rhannau mewn mwy nag un cynhyrchiad, ‘roedd pawb yn aros am wythnos mewn gwesty efo’n gilydd yn yr Hen Ogledd. ‘Roedd fel petai’r theatr Gymraeg i gyd wedi symud, bag and bagej, i Iorc! Sôn am hwyl…

Buan y daeth Iola ei hun yn rhan o griw theatrig y Gogledd, ac yn arbennig, y Theatr Antur dan Gwmni Theatr Cymru, gyda’r sioe CYMERWCH BWYTEWCH. ‘Roedd hyn yn arwyddocaol, achos allan o’r grŵp hwn y daeth gwreiddyn y syniad a’r personoliaethau fu’n gyfrifol am Theatr Bara Caws ei hun. Yn 1977 y bu hynny, wrth i Iola, Val, Sharon, Catrin a minnau ddod at ein gilydd i drafod y posibilrwydd o sefydlu cwmni theatr gymuned annibynnol, Theatr Bara Caws, fyddai’n herio’r sefydliad theatrig ar y pryd. Ac ‘roedd angen ei herio hefyd. Ar y cyfan ‘roedd y cynyrchiadau wedi mynd yn stêl a saff, ac yn amherthnasol i lawer o’r gynnulleidfa. Wrth gwrs, un peth oedd hefru a dadlau am y sefyllfa yn y Glôb ar nos Wener, peth arall oedd GWNEUD rhywbeth ynglŷn â fo. Ond, damia, ‘roeddan ni wedi gaddo sioe i Wil Morgan yn Theatr Clwyd yn ystod Eisteddfod Wrecsam, a rŵan ‘roedd rhaid i ni ‘sgwennu’r blydi peth…

Yn hen ysgol St. Paul’s, Bangor, dyna lle’r oeddem ni’r criw bach – ddaeth cyn hir yn griw mwy gyda Mari Gwilym, Dyfed Tomos, Bethan Meils, Dafydd Pierce, a’r hen Stewart Jones ei hun – yn yfed te a sbïo ar ein gilydd. ‘Roedd pwnc y sioe yn amlwg. ‘Doedd y peth yn cael ei flastio aton ni bob dydd a nos drwy’r wasg a’r cyfryngau – Jiwbilî’r Cwîn. “ God Save the Queen”, canai’r Sex Pistols. Ond pwy oedd yn mynd i chwarae rhan allweddol y Cwîn? Trodd pob llygaid at yr un fwyaf urddasol, cefnsyth ac ymddangosiadol aristocrataidd ohonom i gyd…Iola! A dyna fu. ‘Roedd yr olygfa lle’r oedd Ecweri amlieithog camdreigliedig Dyfed yn rhoi “build-up” anhygoel iddi gyda’r geiriau, “Mae’r Gwîn yn doooood!”, a hithau Iola yn camu yn araf ac awdurdodol ar y llwyfan, a rhyw edrychiad hir a sur ar y gynulleidfa, cyn eistedd i lawr yn ddelicet ar y pan toilet gyda ffwr gwyn brenhinol i gyfeiliant y geiriau gorseddol, “ Eistedded y Gwîn yn hedd y Cantîn”… ‘roedd yr olygfa honno bob amser yn tynnu’r lle i lawr. Mae rhai’n dal i’w chofio fel tase hi’n ddoe…

Aeth Iola yn ei blaen i wneud cyfraniad anhygoel i Bara Caws yn ei flynyddoedd cynnar. Ei gallu arbennig i greu cymeriad cryf a chredadwy ar lwyfan – o’r Wrach Haearn (fersiwn bara-cawsaidd o Mrs. Thatcher) i’r ddynes Fethodistaidd mewn storm ar y llong i America oedd yn dechrau amau ei ffydd yn HWYLIAU’N CODI. Yn yr un cynhyrchiad, Iola oedd y symbol Victoraidd Brittania, ond hefyd chwaraeai wraig morwr a fu farw ar y môr, a’r wraig druan, tra’n derbyn y newydd erchyll, yn gorfod dygymod efo’i mam ffwndrus siaradus. Golygfa ddirdynnol, ddoniol/drist wedi ei ‘sgwennu a’i hactio’n gampus gan ein dwy brif actores, Iola a Val, yn un o gynyrchiadau gorau blynyddoedd cynnar Bara Caws yn fy marn i.

A rŵan bod ein brenhines – a’n gwerinwraig herfeiddiol, Gymreig, dalentog, hwyliog, hael ac annwyl wedi mynd…cofiwn drwy’n dagrau am ei gwaddol amhrisiadwy i’r theatr ac i Gymru.”

Dyfan Roberts 


“Mi gefais i’r fraint o gyd-actio efo Iola ar sawl achlysur, boed ar lwyfan neu deledu, a phob tro, mi fyddwn yn rhyfeddu at ei dawn aruthrol. Serch hynny, yr hyn a erys bennaf yn y cof amdani oedd y wên lydan ar ei hwyneb siriol, ac yna’r chwerthiniad direidus a hynod heintus hwnnw.”

Mei Jones


“Un o hoelion wyth y Theatr yng Nghymru oedd Iola. Roedd ei chyfraniad yn amhrisiadwy i’r broses o osod y sylfaen i’r grefft a’r twf a fu yn hanes y theatr Gymreig ers y saithdegau. Yn Gymraes i’r carn ac yn lladmerydd dros gyfiawnder a chydraddoldeb mewn sawl maes ac achos. Bu’n selog i’r theatr hyd y diwedd gan fynychu a chefnogi cynyrchiadau hyd yn oed pan nad oedd yn ddigon cryf i deithio ei hun. Fe wyddai pawb ohonom os oedd Iola wedi ei phlesio ein bod wedi gwneud joban go lew ohoni. Diolch am dy holl gefnogaeth Iola . . . a ‘Nos Da Nawr’ . . . “

Cefin Roberts 


“Mae dros ddeugain mlynedd ers i Iola a finne dreulio prynhawn gyda’n gilydd un Chwefror diflas yn y Ceffyl Du, Caerfyrddin. ‘Roeddem wedi gorfod canslo’r perfformiad nos o ddrama ar daith oherwydd diffyg cynulleidfa. Ond dros beint soniodd Iola am gynlluniau cyffrous criw o actorion i gychwyn cwmni theatr newydd sbon, arloesol a pherthnasol… ac er mawr syndod fe ofynnodd i minnau os hoffwn i fod yn rhan o’r fenter. “Wrth gwrs Iola…” – a dyna gychwyn ar antur anhygoel Bara Caws… a pharhau’r antur fythgofiadwy o gyfeillgarwch agos a barodd oes. Gweld d’eisiau di Iola. Mae’n chwith iawn ar dy ôl.”

Catrin Edwards 


“Iola … ‘roedd hi’n berson arbennig iawn, a bob tro dwi’n meddwl amdani dwi wastad yn gweld ei gwên ddireidus.  Mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod pryd nes i ddod i adnabod Iola, Val, Dyfan, Catrin, a Mei am y tro cyntaf.  Mi oeddwn i wedi gweithio gyda’r criw yn rhinwedd fy swydd gyda Chwmni Theatr Cymru cyn iddynt sefydlu Bara Caws, a chyn i mi gychwyn gweithio gyda’r cwmni yn yr wythdegau. ‘Roedd hi’n bleser a hwyl sgwrsio gyda hi bob amser, ac ‘roeddwn i’n edmygu ei daliadau cryf a byddai bob amser yn dweud beth oedd ar ei meddwl yn hollol blaen. Gawso’ ni lot o hwyl yn magu ein plant a chael rhyw ‘days-out’ bach joli i lan y môr a ballu – dyddiau difyr.  Fydda ‘na hefyd  groeso mawr i ni bob amser yn Llandwrog. ‘Roedd hi’n berson dawnus dros ben a ‘roeddwn i wrth fy modd yn ei gweld ar y llwyfan – mi wnaeth hi argraff mawr arnai yn y sioeau Merched yn Bennaf ac yn O Syr Mynte Hi.  Braf oedd cael cydweithio gyda hi hefyd flynyddoedd yn  ddiweddarach pan ddaeth yn ôl i Bara Caws i gyfarwyddo Paris.

Mi fydd chwith mawr ar dy ôl Iola – diolch am y fraint o  gael dy adnabod a chael gymaint o hwyl yn dy gwmni – cwsg yn dawel.  Ein cydymdeimlad dwys ag Angharad a Rhian a’u teuluoedd.”

Linda Brown

Llun-o-Iola-tall
Llun-Cwmni-Theatr-Bara-caws

Ymchwil a Datblygu – Wrth Fy Nagrau I

September 22, 2017 / no comments

Bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn cynnal prosiect Ymchwil & Datblygu am bythefnos ar lyfr Angharad Tomos, Wrth fy Nagrau I, rhwng y 4ydd a’r 16eg o Ragfyr eleni.  Continue Reading…

Cyhoeddi Awduron a Chast Sioe Glwb 2018

September 12, 2017 / no comments

‘Roedd lot o hwyl yma ddydd Gwener diwethaf wrth i griw ddod at ei gilydd i ddechrau trafod syniadau ar gyfer y sioe glwb nesaf. Continue Reading…

Cyhoeddi Cast a Thaith Dim Byd Ynni

July 20, 2017 / no comments

Wrth i Theatr Bara Caws ddathlu’I ben-blwydd yn ddeugain oed eleni, y cynhyrchiad olaf i nodi’r dathlu yw Dim Byd Ynni gan Emlyn Gomer a fydd yn agor yn Eisteddfod Genedlaethol Môn fis Awst. Bydd pedwar perfformiad o’r ffars newydd hon yn yr Eisteddfod cyn iddi deithio ym Medi a Hydref eleni. Continue Reading…

Te Parti!

July 20, 2017 / no comments

Y digwyddiad sy’n coroni’r dathlu yw’r Te Parti Pen-blwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. Mae 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i griw bychan, brwd o ymarferwyr ddod at ei gilydd a rhoi ’sgytwad iawn i fyd y theatr yng Nghymru. Ac mae Gwasg Carreg Gwalch am lansio llyfr mawr llawn atgofion lliwgar i nodi’r achlysur. Felly dewch i ymuno yn yr hwyl yng nghwmni cyfeillion hen a newydd. Continue Reading…

Mari’n dychwelyd

July 20, 2017 / no comments

Mae Mari Emlyn bellach wedi dychwelyd i’w swydd ar ôl ei chyfnod mamolaeth – llongyfarchiadau gwresog iddi hi a’r teulu bach ar enedigaeth Ela Emlyn. Continue Reading…

© Bara Caws 2018 Rhif Cwmni | Company No : 330 1990 Rhif Elusen | Charity No: 1062896