BWYSTFILOD
Sioe bypedau symudol gan Angela Roberts fydd yn annog y plant i ganu, dawnsio, cymeradwyo, bwian, sgrechian, chwerthin, a hisian! Fersiwn drawiadol a hwyliog o rai o chwedlau gwerin Llanberis a Chaernarfon sy’n cynnwys afanc bach unig, morforwyn hyll hunanol, a chorrach sy’n cnocio ar waliau’r chwarel i godi ofn!
Cast: Llŷr Edwards, Leisa Mererid
Cyfarwyddo: Angela Roberts