DRAENEN DDU gan Charley Miles cyfieithiad Angharad Tomos
Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.
Hen, hen thema sydd yma, ond yn cael ei chyflwyno i genhedlaeth newydd a hynny mewn modd annwyl, doniol a dirdynnol. Mae’r pwnc yn effeithio pob un ohonom, hen ac ifanc, trefol neu wledig.
Beth ddaw o’n cymunedau ni, a chyfrifoldeb pwy yw eu parhad? Oes ffordd i warchod ein treftadaeth, a chreu dyfodol gwell gyda phobl ifanc?
Mae’r ddrama yma’n siŵr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.
Cast : Rhian Blythe a Rhys ap Trefor
Cyfarwyddo : Betsan Llwyd
Cyfnod teithio : 12 Mai – 6 Mehefin 2020
