Fienna gan Siôn Eirian
Yn dilyn llwyddiannau digamsyniol Garw (2015) ac Yfory (2017) dyma’r drydedd ddrama yn ei gyfres wleidyddol mae Siôn wedi ei hysgrifennu i Bara Caws. Bydd tair rhan i’r ddrama hon a’r themâu – hil, ffiniau, a sut mae pobl a gwledydd yn diogelu a’n gwthio eu hunaniaeth ar eraill.
“Mae’n ddrama am sut mae Ewrop wedi ymdopi â’r “estron”, ac elfen ganolog y stori yw bargeinio, gan defnyddio statws a blys rhywiol. Dyna reddfau gwaelodol yr anifail dynol. Perthyn, pŵer a rhywioldeb.” (Siôn Eirian, Ionawr 2019)
Ysgrifennwyd y ddrama ar ffurf triptych sy’n pontio canrifoedd gyda’r rhan cyntaf wedi ei osod yn Fienna’r 1700au, yr ail yn Fienna’r 1930au, a’r trydydd yn Fienna heddiw.
Cast yn cynnwys : Gwenllian Higginson, Caryl Morgan…….
Cyfarwyddo : Betsan Llwyd
Cyfnod teithio : 8 – 26 Medi 2020
