Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws
  • Hafan
  • Sioeau
    • Cariad yn Oes y Gin
    • Un Nos Ola Leuad
    • Lleisiau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English
  • Hafan
  • Sioeau
    • Cariad yn Oes y Gin
    • Un Nos Ola Leuad
    • Lleisiau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English

Gair o Gariad 2019

May 21, 2019 / no comments

GAIR O GARIAD

“Mae cerddoriaeth yn llenwi gofod rhwng pobol”

Bydd Gair o Gariad yn siŵr o fod yn wahanol iawn i’r un sioe arall fyddi di wedi ei weld. Wrth i ti gyrraedd bydd Lleuwen a Rhodri yn dy groesawu gan gynnig gwydriad o win pefriog neu ddŵr, wedyn cei ddilyn stori garu’r ddau wrth iddyn nhw sgwrsio â’i gilydd drwy gerddoriaeth. Ond yr hyn sy’n gwneud y cyflwyniad yn gwbl gyffrous ydi fod rhan fawr o’r sioe’n cael ei chreu’n arbennig bob nos yn sgil ceisiadau am ganeuon sy’n cael eu cyflwyno o flaen llaw gan y gynulleidfa – ceisiadau sy’n pendilio o’r dwys i’r doniol, o’r melys i’r chwerw, a phob un yn cyfrannu at berfformiad unigryw a chwbl berthnasol i bob cynulleidfa unigol.  A gallant gael eu cyflwyno i unrhywun – gŵr, gwraig, cariad, ffrind, mam, tad, nain, taid, cath, ci ayb ayb – efallai fod rhywun yn dathlu pen-blwydd, neu dy fod yn dathlu pen-blwydd priodas ar noson un o’r perfformiadau?

Does dim rhaid cyflwyno cais os wyt ti am weld y sioe, ond mae pawb sydd wedi ei gweld yn barod yn dweud eu bod naill ai’n difaru bod nhw heb wneud, neu bod nhw heb ‘sgwennu ceisiadau mwy manwl – ac mae lot am ddod i’w gweld eto er mwyn gwneud!

40 tocyn yn unig sydd ar gael i bob perfformiad felly cynta’ i’r felin fydd hi.

Perfformwyr: Lleuwen Steffan a Rhodri Siôn

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Technegwyr: Berwyn Morris-Jones, Emyr Morris-Jones, Carwyn Rhys

…Wel sôn am siwrne o brofiadau, o chwerthin afreolus ac embaras pur, i atgyfodi hen atgofion hir-golledig…Gadawodd pawb â llygaid sgleiniog, a gwên lydan yr un…

…welais i focsus o tissues yn cael eu pasio rownd y byrddau sawl gwaith, a cafodd y gynulleidfa ei chyffwrdd yn emosiynol gan y sioe…

‘Da ni’n edrych ‘mlaen i dy groesawu i sioe arbennig iawn!

Neuadd Gymunedol Llanrwst, Watling Street
Nos Fawrth 06-08-19 am 8:00.     https://www.wegottickets.com/event/473134   
Nos Fercher  07-08-19 am 8:00.   https://www.wegottickets.com/event/473135 
P’nawn Iau 08-08-19 am 2:00       https://www.wegottickets.com/event/473137 
Nos Iau 08-08-19 am 8:00             https://www.wegottickets.com/event/473138 
Nos Wener 09-08-19 am 8:00       https://www.wegottickets.com/event/473140

Felly ‘da ni isio gofyn i ti ddewis cân i ni ei chwarae yn ystod y sioe, cân wyt ti isio’i chyflwyno i rhywun / rhywrai / rhyw le arbennig – a dwêd pam. Pam fod y person / y bobol / y lle yma mor bwysig i ti? Ella bod gen ti atgofion penodol fasa ti’n licio’u rhannu, neu ella bod y gân yn dy atgoffa di o rhyw gyfnod arbennig?

 


Ac i ti gael syniad dyma rai o’r ceisiadau ‘da ni wedi’u cael o’r blaen (gyda chaniatad wrth gwrs…)i:

– Dwi am ddewis Leonard Cohen yn canu Take this Waltz 

‘Drwy gicio a brathu…’ meddai’r hen air, a fel’na oedd hi i ni ar y dechrau, hefo sawl ‘false start’. Y ddau ohona ni newydd ddod allan o berthynas go hir hefo pobol eraill, a’r un o’r ddau ohona ni’n hollol siŵr o’n gilydd chwaith. Ond ti’n cofio’r gusan gynta’ ‘na? Ac wedyn y penderfyniad i ‘roi go’ arni? Mae dal yn fy rhyfeddu i mor wahanol mae’r ddau ohona ni’n cofio’r ‘gemau’ oedda ni’n chwarae ‘stalwm…felly mae hon i ti…

                                          


– I Arthur – sw’n i’n licio Calon Lân gan Cerys Mathews 

Er na ‘dwyt i ond pwtyn bach 4 oed, mi oedda ti’n benderfynol o ddysgu rhai o’r anthemau cenedlaethol cyn mynd i’r stadiwm am y tro cyntaf i weld Cymru’n chwarae.  Mi oedd dy dad a finna wedi gwirioni, ac wrth ein bodda’n ‘u dysgu nhw i chdi.  Allai ddim gwrando ar ‘Sosban Fach’, na hon, heb feddwl amdana chdi erbyn hyn. Mae o fatha mod i’n ‘i chlywed hi am y tro cyntaf yn hun rwsut, a hynny bennaf, amwni, am dy fod di’n rhoi’ dy stamp di dy hun ar ambell linell, fatha ‘Aur y byd na’i beli mân’, a ’Teciall yw na’r lili dlos… 

Ma’n gneud i mi chwerthin a gwirioni bob tro dwi’n dy glywed di’n ‘u canu nhw. Plîs paid a stopio. Pwy a ŵyr, ella dysgi di’r geiriau iawn erbyn tro nesaf ‘da ni yn y stadiwm. 

Caru chdi washi, i’r lleuad ac yn ôl. 


– Dyma Misty gan Errol Garner. I ‘nghymar (sy’n darllen rhwng y llinellau.)

Am wybod be’ dw isio’i ddweud pan dw i’n methu’n lân a’i ddeud o. 

Am ddeall mai, yn aml, dim ond sŵn sydd i ‘ngeiriau i. 

Am dderbyn mod i’n methu mynegi. . . ogla’i grys ar ôl iddo balu’r ardd…a golau’r haul…a’r chwys ‘i dalcen… rhythm ‘i chwyrnu. 

Tydi geiriau byth yn paentio’r llun dwi isio’i gyfathrebu. A tydi’r paent dw i’n iwsio i fynegi byth yn llwyddo i liwio cân.  

Cyn inni ddechra canlyn mi ddaeth o i’n fflat i a deud mod i angen mwy o lesni.  A gwyrddni.  Yn ‘y mhen ac yn ‘y nghordiau ac yn fy lluniau i gyd. Gofynnodd o pam mai lliwiau tân yn unig oedd yn fy mocs paent i. 

Mae ‘nghymar i’n darllen rhwng y llinella. 

Mae o’n chwarae’r trac yma ar repeat imi weithia, ac mae’r nodau’n troi popeth yn wyrddlas. Dw i weithiau’n fôr llonydd o’i achos o.


– Un Funud Fach gan Bryn Fôn. Cais i Eleanor.

‘Roedd Eleanor a minnau’n ffrindiau bore oes, ac yn ffrindiau gorau un. Pan gafodd hi diagnosis fod ganddi gancr – un o’r rhai mwyaf ffiaidd – mi oedd yn sioc i bawb.  A’r peth anoddaf iddi hi oedd na fyddai byth yn gweld ei phlant a’i hwyrion yn tyfu i fyny.  Ei theulu oedd popeth iddi.

‘Roedd y ddwy ohonom yn danfon neges ebost neu neges destun at ein gilydd BOB DYDD am dair mlynedd, a finnau wastad yn deud ‘mod yn ei charu hi. ‘Roedd hi’n esiampl i ni gyd, a dwn i’m sut oedd hi’n medru bod mor joli a clên tra’n gwybod beth oedd o’i blaen, ond ‘doedd hi byth yn cwyno, ‘mond meddwl am bobol eraill drwy’r amser.  

Yn ystod ei gwaeledd ‘roedd caneuon Bryn Fôn yn bwysig iawn iddi.

Dwi yn siarad hefo hi bron bob dydd – hefo hi a mam – dwi siŵr bod nhw hefo’i gilydd yn rhywle – fydd yna neb fatha’r ddwy yna. 

Felly dwisio’r cais yma yn spesial i Eleanor fy ffrind gorau, a chodi gwydriad iddi yr un pryd – Caru chdi Els xxxx


Côr Meibion Brymbo yn canu I Mewn i’r Gôl! i Ifan.

Mae Ifan yn ffrind oes i mi, a dyma’r gân wnaeth Ifan ei blastio ar y ‘record player’ pan ddeffrais i’r bore hwnnw ar ôl i ni gael ein ‘sleepover’ cyntaf!

Meddyliwch!  Cael fy neffro gan leisiau Côr Meibion Brymbo! – a bob tro dwi’n clywed y gân yma dwi’n cofio’r bore hwnnw.

Mae hefyd yn f’atgoffa i o’r amser oeddan ni’n dreifio lawr i ‘steddfod Llanelli yn 2014, a’r gân ar ‘loop’ yr holl ffordd o’r Gogledd i’r De!  4 awr o gôr meibion!

Diolch, Ifan, am bob dim.  Diolch am ‘y ngneud i chwerthin bob tro dwi’n dy weld ti. 


– Cân i Dad a Mam plis – Dance With my Father gan Luther Vandrooss

Dwi ‘di bod mewn sawl priodas yn ddiweddar, ac wedi sylwi ar draddodiad newydd, lle mae’r briodferch a’i thad yn dawnsio hefo’i gilydd – cyn i’r pâr hapus gymryd i’r llawr.

Er nad ydw i’n bwriadu priodi, tasa’r dydd hwnnw’n digwydd, dwi’n gwbod na cha’i a Dad byth y ddawns sbeshal hono. Ma siŵr na gwrthod basa chdi beth bynnag, hyd yn oed tasa chdi’n gallu.

Ma’n torri ‘nghalon i a ngwylltio fi’n wirion meddwl am bob cyfle ma’r salwch felltith ‘ma wedi’i ddwyn oddi arna chdi, oddi arno ni gyd. 

Ond ‘ma gen i le i ddiolch – am bob atgof, am bob gair o gyngor, am bob row oedd yn dod a fi at y nghoed pan oni’n mynd ar gyfeiliorn. Am yn nysgu fi. Am fod yna i fi. Diolch am bob dim. Yn bennaf diolch am bob dydd wti dal yma yn cwffio. A gwneud hyny gyda urddas a gwên. Ti wir yn sbeshal. 

Mam, ma’ hon i chdi hefyd. Lle dwi’n dechra? Hebdda chdi, a dy ofal annwyl am Dad a phawb ohono ni yn nghanol y sefyllfa erchyll ‘ma, dwni’m lle basa ni. Does dim geiriau all gyfleu ein diolch i chdi. Ti werth y byd. 

‘Da chi werth y byd, Caru chi’ch dau. I’r lleuad ag yn ôl.

Plîs pawb, os yda chi’n ddigon ffodus a bod eich Tad a’ch Mam yn fyw ac yn iach – ewch ati i greu atgofion. Mi fydda nhw’n fendith ac yn nerth i chi ryw ddiwrnod. Chwerthwch, criwch, siaradwch, dawnsiwch hyd yn oed, dos wbod pryd bydd y tro olaf. 

Ffurflen Gais ar gyfer Gair o Gariad

Enw (gofynnol)

Ebost (gofynnol)

Rhif ffôn

Dyddiad y perfformiad

Wyt ti am fod yn ddi-enw, neu wyt ti’n hapus i gael dy enwi?:

Enw’r gân neu ddarn o gerddoriaeth ti am ei chlywed/glywed, a phwy sy’n canu/chwarae:

I bwy mae’r gân hon yn cael ei chyflwyno a pham? Pam fod y person/y bobol/y lle yma, a’r gân mor bwysig i ti? Oes gen ti atgofion penodol i’w rhannu? Ydi’r gân yn d’atgoffa di o rhyw gyfnod arbennig? Petai ti’n cael cyfle, beth fyddet ti’n ddweud wrth yr unigolyn/bobl yma wyneb yn wyneb? ‘Sgwenna faint a fynni!

map

Aberhenfelen

May 13, 2019 / no comments

ABERHENFELEN

gan Sara Anest, Mared Llywelyn ac Elan Grug Muse

Dewch i mewn, gadewch ofidiau efo’ch sgidiau budron wrth y drws – Yma efo ni yn Ynys Gwales melys fydd eich cwsg. Hidiwch befo, yma gwelwch chi eich ofnau’n cilio.

…ond ers i Rhiannon a’i hadar hudolus gael eu disodli gan Iolo Morganwg fel rheolwr sut le sydd ar yr ynys baradwysaidd erbyn hyn? Caiff 5 o Gymry ifanc, sydd newydd lanio ar Ynys Gwales am wythnos o wyliau, brofiadau arallfydol yng nghwmni rhai o gymeriadau mwyaf brith ein hanes.

Cynllun cyffrous dan arweiniad Bara Caws sy’n rhoi cyfle i ymarferwyr proffesiynol ifanc gynhyrchu sioe gyda chast Theatr Ieuenctid yr Urdd. Mae 3 chyfnod o ymarferiadau wedi eu cwblhau yn Llangrannog a byddwn yn cyfarfod unwaith eto ym mis Gorffennaf ar gyfer yr wythnos olaf gan berfformio 2 sioe yn Galeri Caernarfon ar 23 Gorffennaf, a 2 sioe yn yr Atrium Caerdydd ar 26 Gorffennaf.

Bydd y tocynnau’n mynd ar werth yn ystod Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ar Mai 31.

Cyfarwyddo: Meilir Rhys

Coreograffi: Cêt Haf

Cyfansoddi: Ifan Siôn Davies a Rhodri Williams

Cynllunio: Erin Maddocks

Rheoli Llwyfan: Caryl McQuilling

Lleu Llaw Gyffes

April 16, 2019 / no comments

LLEU LLAW GYFFES gan Aled Jones Williams.

Drama eiconoclastig am golli ffydd, chwalu mythau ac am y tynerwch dynol all oroesi. Drama ddeifiol a chignoeth, ac yn nhraddodiad Aled, yn ddifyr, cyffrous a heriol.

‘Da ni’n falch iawn o gyhoeddi enwau cast y ddrama drawiadol hon ac yn edrych ymlaen yn arw at gyd-weithio gyda Carwyn Jones, Siôn Pritchard a Dyfan Roberts yn ystod yr hydref.

llg

Costa Byw

March 4, 2019 / no comments

‘COSTA BYW’ 

gan Mari Elen, Mared Llywelyn a Llŷr Titus

Yn dilyn y daith hynod lwyddiannus ddiwethaf, mae Bara Caws, a Cwmni Tebot, yn falch iawn o’r cyfle i gyflwyno Costa Byw unwaith eto – rifíw hwyliog sy’n dychmygu sut le fydd Gwynedd mewn blynyddoedd i ddod. Cewch ambell gip ar broblemau cyfoes – mewnfudo, diffyg swyddi, cost tai, gwleidyddion, newid hinsawdd, crîm egs yn mynd yn llai bob gafael, hyn oll a mwy. Ymunwch â ni i weld be’n union ydi a be fydd costa byw ’di mynd!

Sioe berthnasol i bob cymuned yn yr oes ohoni gan dri dramodydd ifanc, lleol.

Cast: Iwan Charles a Llyr Edwards

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Technegwyr: Berwyn Morris-Jones, Emyr Morris-Jones, Carwyn Rhys

Be’ ‘da chi ‘di ddeud…

Ardderchog yn wir!

…sioe WYCH a phwysig. Diolch am gael gweld cynhyrchiad arbennig
…Perfformiadau arbennig…dal i chwerthin…
Diolch am ein diddanu a’n procio. Isio’i weld eto yn barod!
Doniol a difrifol. Depreshiyn a Drôns. Dyfodol? Dwn’im. #Deffrwch bobol #Cymru Dudwch ych Deud!

Cliciwch am eich tocynnau : 

Neuadd Gymunedol Llanrwst, Watling Street

Dydd Llun 05-08-19 am 2.00 :       http://www.wegottickets.com/event/474305
Nos Lun 05-08-19 am 8.00 :          http://www.wegottickets.com/event/474308
Dydd Mawrth 06-08-19 am 2.00 : http://www.wegottickets.com/event/474310
Dydd Mercher 07-08-19 am 2.00 : http://www.wegottickets.com/event/474313
Dydd Gwener 09-08-19 am 2.00 :  http://www.wegottickets.com/event/474315
COSTA BYW
COSTA BYW
COSTA BYW
map

© Bara Caws 2022 Rhif Cwmni | Company No : 0330 1990 Rhif Elusen | Charity No: 1062896