Gweinyddydd a Marchnata Cyfnod Mamolaeth

Mae Bara Caws yn gwmni theatr cymunedol sy’n cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf posib o’r gymuned, yn y gymuned, gan gynnig profiadau theatrig o’r radd flaenaf, dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon Cymru, a chalonnau’r Cymry.

Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig ac ysbrydoledig i ymuno â’r Cwmni dros gyfnod Mamolaeth o hyd at 9 mis gan gychwyn Tachwedd 7fed

Bydd deilydd y swydd yn cyd weithio gyda gweddill y tîm Rheoli ym mhob agwedd o redeg y cwmni o ddydd i ddydd gan ganolbwyntio’n bennaf ar y Gweinyddu a’r Marchnata.

Disgwylir i bob ymgeisydd feddu ar y gallu i gyfarthrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyflog i’w drafod.

I ymgeisio am y swydd anfonwch lythyr cais a’ch c.v at Mari Emlyn,

Dyddiad Cau: Dydd Llun 11 Gorffennaf 2016

Theatr Bara Caws, Uned A1, Cibyn, Caernarfon, Gwynedd. LL55 2BD

mari@theatrbaracaws.com 

Am fwy o fanylion cysylltwch â ni : 01286 675 869 / 01286 676 335 I gael mwy o hanes y Cwmni ewch draw i’n gwefan www.theatrbaracaws.com