Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws
  • Hafan
  • Sioeau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English
  • Hafan
  • Sioeau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English

Cwmni theatr cymunedol yw Bara Caws sy’n cyflwyno gwaith gwreiddiol a pherthnasol i’r trawstoriad ehangaf posib o’r gymuned, yn y gymuned, gan gynnig profiadau theatrig o’r radd flaenaf, dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon Cymru, a chalonnau’r Cymry.

Ers ei sefydlu bron i ddeugain mlynedd yn ôl, datblygodd Bara Caws i fod yn un o gonglfeini’r byd theatrig yng Nghymru, a ni bellach yw’r cwmni theatr cymunedol proffesiynol hynaf sy’n gweithio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. ‘Rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth unigryw i gynulleidfaoedd ar lawr gwlad, drwy ddiwallu’r angen am weithgaredd theatrig celfyddydol safonol, proffesiynol yng nghalon cymunedau’r genedl, a hynny, yn bennaf, yn yr iaith Gymraeg.

henbaracaws
nowe

Mae cylch gwaith Bara Caws yn un heriol, ac ymdrechwn bob tro i gynhyrchu gwaith rhagorol, safonol sy’n cysylltu â Chymru gyfan. Heb os, prif faes gweithgarwch y Cwmni yw’r byd theatrig cymunedol, ond cynigir yr arlwy hwnnw ar sail genedlaethol. Yng Nghaernarfon mae cartref y Cwmni, ond gan ein bod yn teithio pob cynhyrchiad ledled y wlad mae cyrhaeddiad ein buddiolwyr yn ymestyn ymhell tu hwnt i ffiniau Gwynedd. Drwy deithio mor eang ‘rydym yn cyrraedd pobl na fyddai fel arall yn cael mwynhau profiadau theatrig, gan gyflwyno rhaglen amrywiol sy’n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Mae atebolrwydd i’r cyhoedd yn rhan annatod o wead Bara Caws, ac yn sgil y dystiolaeth gyson a dderbyniwn gan y cyhoedd, gallwn fod yn hyderus fod gwaith y Cwmni’n parhau i daro tant ac yn mynd o nerth i nerth.

Ymfalchïwn yn ein llwyddiant yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru ers eu sefydlu yn 2013 gyda nifer o’r prif wobrau yn dod i’n rhan Actores Orau yn yr Iaith Gymraeg 2013 – Rebecca Harries (Llanast!) Actores Orau yn yr Iaith Gymraeg 2014 – Eiry Thomas (Garw), Actor Gorau yn yr Iaith Gymraeg 2014 – Rhys Parry Jones (Garw), Awdur Gorau yn yr Iaith Gymraeg 2014 – Siôn Eirian (Garw) Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg 2014 – (Garw). Actor Gorau yn yr Iaith Gymraeg 2015 – Rhodri Evan (Difa) Cynhyrchiad gorau yn yr Iaith Gymraeg 2015 (Difa).

difa2

Yn unol â’r brîff presennol, llwyfennir o leiaf tri chynhyrchiad y flwyddyn, gyda’r ddarpariaeth yn cynnwys amrediad o ddeunydd, o gomedïau teuluol, i ddramâu ysgafn, o ysgrifennu newydd heriol i’r sioeau clwb. Ein targed, bob tro, yw ceisio cyrraedd calon cymunedau ar lawr gwlad, mewn ffordd nad all nifer o gwmnïau eraill ei wneud. Anelwn bob tro at greu celfyddyd o safon, gan gyflwyno cynyrchiadau sy’n uchelgeisiol ac yn greadigol eu hansawdd, gyda’r nod o ymestyn, cyrraedd, a diddanu, beth bynnag yw’r genre a phwy bynnag yw’r gynulleidfa.
Er mwyn gwireddu hyn rhown ein cynyrchiadau mewn tri chategori, gan amrywio genres i gyd-fynd â gofynion y gwahanol leoliadau yr ymwelwn â nhw:

GWAITH PRIF FFRWD
GWAITH HERIOL/ARLOESOL
GWAITH TU ALLAN I LEOLIADAU THEATRIG TRADDODIADOL

Ymfalchïwn yn ein gallu i gynnig gwaith ac hyfforddiant i, ac ymestyn sgiliau, ymarferwyr theatrig o bob math – hen a newydd – yn actorion, awduron, a thechnegwyr, er cynaliadwyedd y theatr Gymraeg, ac yn croesawu llu o bobl ifanc ar brofiad gwaith bob blwyddyn.

Mae pum aelod o staff parhaol yn ffurfio’r Tîm Rheoli: Betsan Llwyd, (Cyfarwyddwr Artistig), Berwyn Morris-Jones (Technegydd – arbenigo ar Sain a Dylunio Cyfrifiadurol), Emyr Morris-Jones (Technegydd – arbenigo ar Gynllunio a Golueo), Linda Brown a Mari Emlyn (Gweinyddwyr).

Goruchwylir y Cwmni gan fwrdd o gyfarwyddwyr a chyfundrefn o is-baneli, sy’n gyfrifol am sicrhau tryloywder gweinyddiad, cywirdeb ariannol, arfer da, a chymeradwyo polisïau gweithredol.

Mae’r Cwmni’n elusen gofrestredig sy’n cael ei ariannu gan grantiau, yn bennaf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ac awdurdodau Sirol Gwynedd, Môn a Chonwy.

Tweets

  • Diolch Bala @TheatrDWBala Diolch @Bransbrings Lawr Sowth wsos nesa. @aptref @blaidd_bach @betsantbc @Maritbc… https://t.co/xMqYEV29hP02:59 PM May 21
  • Wythnos ola #DraenenDdu Taith pleserus iawn @aptref @blaidd_bach @betsantbc @Maritbc @emyrmorrisjones… https://t.co/3cfZUDx0GI07:58 AM May 21
  • All set yn Y Bala @TheatrDWBala @aptref @blaidd_bach @betsantbc @Maritbc @emyrmorrisjones @Linda_Brown_TBC… https://t.co/7czQ9j3HL707:16 AM May 21

Cysylltu

Enw (gofynnol)

Ebost (gofynnol)

Neges


theatr bara caws
uned A1
ystad ddiwydiannol cibyn
caernarfon
gwynedd LL55 2BD
Ff: 01286 676 335
Ff: 01286 675 869

© Bara Caws 2019 Rhif Cwmni | Company No : 330 1990 Rhif Elusen | Charity No: 1062896