GAIR O GARIAD
“Mae cerddoriaeth yn llenwi gofod rhwng pobol”
Yn anad yr un sioe arall mae Gair o Gariad yn wahanol iawn i’r un sioe arall fyddwch wedi ei gweld. Bydd Lleuwen a Rhodri yn eich croesawu a’n cynnig gwydriad o win neu ddŵr pefriog i chi wrth i chi gyrraedd, ac yna cewch ddilyn stori garu’r ddau wrth iddynt sgwrsio â’i gilydd drwy gerddoriaeth. Ond yr hyn sy’n gwneud y cyflwyniad yn un cwbl gyffrous yw’r ffaith fod y rhan helaeth o’r sioe’n cael ei chreu’n arbennig bob nos yn sgil ceisiadau am ganeuon sy’n cael eu cyflwyno o flaen llaw gan ein cynulleidfaoedd. Gall y ceisiadau bendilio o’r dwys i’r doniol, o’r melys i’r chwerw, a phob un yn cyfrannu at berfformiad unigryw a chwbl berthnasol i bob cynulleidfa unigol. A gallant gael eu cyflwyno i unrhywun – yn ŵr, gwraig, cariad, ffrind, mam, tad, nain, taid, cath, ci ayb ayb – efallai fod rhywun yn dathlu pen-blwydd, neu’ch bod yn dathlu pen-blwydd priodas ar noson un o’r perfformiadau?
Does dim rhaid cyflwyno cais os am weld y sioe, ond yn sgil ei pherfformio llynedd ‘roedd pawb yn dweud eu bod naill ai’n difaru nad o’n nhw wedi gwneud, neu nad o’n nhw wedi ‘sgwennu ceisiadau mwy manwl!
40 tocyn yn unig sydd ar gael i bob perfformiad, felly cyntaf i’r felin.
Pytiau o geisiadau:
… i Phyllis er cof am Merêd… Diolch – Er imi ei gweld yn ddiweddar mi anghofish i ddeud hynny…
…Mam, mae hi’n fis Mai eto, a dwi isho i chi wybod mod i’n cofio…
… i’r ardal arbennig yma ‘da ni’n byw ynddi.
…i ‘ngŵr… dwi’n cofio teimlo bod y gwaethaf drosodd, a bod y gwanwyn yn dod…
…Diolch Dad am fod yn chi…Diolch am ganu i mi pan o’n i’n methu cysgu ar ben fy hun.
…Wel, hon ‘di’r gân ora’n y byd, felly dwi’n ‘i dedicatio hi i fi’n hun!
Gair gan y gynulleidfa:
…Wel sôn am siwrne o brofiadau, o chwerthin afreolus ac embaras pur, i atgyfodi hen atgofion hir-golledig…Gadawodd pawb â llygaid sgleiniog, a gwên lygad yr un…
…welais i focsus o tissues yn cael eu pasio rownd y byrddau sawl gwaith, a cafodd y gynulleidfa ei chyffwrdd yn emosiynol gan y sioe…
Perfformwyr: Lleuwen Steffan a Rhodri Sion
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd
Technegwyr: Berwyn Morris-Jones, Emyr Morris-Jones
Ffurflen Gais ar gyfer Gair o Gariad
