Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym
“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”
Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos.
Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.
Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.
Bydd cyfle euraidd i’r rheini ohonoch sydd yn dymuno gwneud hynny, leisio eich profiadau peri-menoposal, menoposal ac o fod yn ferch mewn sgwrs hwyliog gyda Iola Ynyr a Carys Gwilym wedi ambell berfformiad. Bydd hon yn sgwrs gynhwysol anffurfiol lle cewchgyfle i ymlacio a theimlo’n rhydd i ddweud eich dweud mewn gofod diogel.
Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”
Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa. Beth allai fod yn well?
Canllaw oed 14+.
𝐂𝐚𝐬𝐭 – Carys Gwilym
𝐂𝐲𝐟𝐚𝐫𝐰𝐲𝐝𝐝𝐨 – Iola Ynyr
𝐂𝐞𝐫𝐝𝐝𝐨𝐫 – Osian Gwynedd
𝐓𝐞𝐜𝐡𝐧𝐞𝐠𝐲𝐝𝐝 – Llywelyn Roberts
𝐂𝐲𝐧𝐥𝐥𝐮𝐧𝐲𝐝𝐝 – Lois Prys
Cynhyrchiad Theatr Bara Caws mewn cyd-weithrediad â Galeri, Caernarfon.