Taigh/Tŷ/Teach

January 23, 2024 / no comments

 

Fishamble: The New Play Company, Theatr Gu Leòr, a Theatr Bara Caws yn cyflwyno:-

TAIGH/TŶ/TEACH

Yn Theatr Bara Caws rydym wrth ein bodd bod yn cael bod yn rhan o bartneriaeth drawsffiniol arloesol, ynghyd â Theatre Gu Leòr (Yr Alban) a Fishamble (Iwerddon), i gyflwyno profiad theatrig unigryw tairieithog – TAIGH/TŶ/TEACH – i’n cynulleidfaoedd.

Cyd-destun y cynhyrchiad yw ‘tŷ’ yn y cymunedau Cymraeg/Gaeleg/Gwyddeleg sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi, tai gwag, Air B&Bs, rhenti uchel, a diffyg tai fforddiadwy i’r bobl leol. Tair stori sy’n amlygu’r sialensau sy’n berthnasol i’r tair gwlad, a’r heriau sy’n effeithio ar y bobl sy’n byw yn y cymunedau hynny.

Ysgrifennwyd TŶ/TEACH/TAIGH gan Mared Llywelyn Williams, Mairi Morrison, ac Eva O’ Connor, a byddwn yn perfformio mewn safleoedd-penodol yn y tair gwlad.

Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn yw’r lleoliad yng Nghymru, lleoliad a fydd yn sicrhau profiad unigryw i’r gynulleidfa gael ei throchi mewn darn o waith mewn safle cwbl arbennig. Cyflwyniad promenâd yw hwn gyda’r gynulleidfa’n cael ei thywys o un ‘lleoliad’ i’r llall, gan brofi’r dramâu mewn un iaith ar ôl y llall, a cherddoriaeth fyw yn gweu drwy’r cyfan.

Bydd crynodebau Cymraeg ac is-deitlau Saesneg ar gael i sicrhau hygyrchedd.

Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael felly’r cyntaf i’r felin…

TOCYNNAU

Tocynnau ar gael drwy safle we We Got Tickets:-

https://www.wegottickets.com/TheatrBaraCaws

Pnawn Mercher, Chwefror 21ain am 1yp
Nos Fercher, Chwefror 21ain am 6:30yh

Pnawn Iau, Chwefror 22ain am 1yp
Nos Iau, Chwefror 22ain am 6:30yh

Pnawn Gwener, Chwefror 23ain am 1yp
Nos Wener, Chwefror 23ain am 6:30yh

Pnawn Sadwrn Chwefror 24ain am 1yp
Nos Sadwrn, Chwefror 24ain am 6:30yh

 

CAST

Martha Dunlea – Gráinne
Eoin O’Dubhghaill – Ruairí
Honi Cooke – Lara

Elspeth Turner – Seona
Màiri Morrison – Annie
Sam Smith – Calum

Mirain Fflur – Luned
Richard Elfyn – Richard
Siôn Emyr – Huw


Tîm Creadigol

Awduron – Eva O’Connor, Màiri Morrison, a Mared Llywelyn Williams
Cyfarwyddwr – Muireann Kelly
Dramaturg – Pamela McQueen
Set a’r dylunydd gwisgoedd – Becky Minto
Goleuo a Dylunydd AV – Ceri James
Cyfarwyddwr Cerdd – Hilary Brooks
Cynllunydd Sain – Berwyn Morris-Jones
Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Betsan Llwyd
Cynllunydd Set a Gwisgoedd – Fraser Lappin

Tîm Cynhyrchu

Rheolwr Cwmni – Rhona NicDhùghaill
Rheolwr Cynhyrchu – Eoin Kilkenny
Rheolwr Cynhyrchu (Yr Alban) – Mike Adkins
Rheolwyr Llwyfan – Kat Siebert, Leanna Cuttle, Llŷr Edwards, Jess Baldwin, a Cathrin Thomas
Cynhyrchwr Lleoliad – Rachel Kate MacLeod
Isdeitlau – Craig McNeill
Cynhyrchwyr – Emyr Morris-Jones, Mari Emlyn, Laura MacNaughton, Seona McClintock, Stephen Owen Williams, ac Eva Scanlan
Marchnata – Rachel Foran
Cysylltiadau Cyhoeddus – O’Doherty Communications

 

PERFFORMIADAU

30ain Ionawr – 1af Chwefror Grinneabhat, Lewis, Yr Alban

9fed – 14eg Chwefror Ionad Na Dromoda, Kerry, Iwerddon

21ain – 24ain Chwefror Nant Gwrtheyrn, Cymru

Lleoliad yng Nghymru – Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL.

 

Datblygwyd gyntaf gyda chefnogaeth Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae’r cynhyrchiad yma wedi ei gefnogi gan Arts Council, Culture Ireland, Siamsa Tíre, Foras na Gaeilge, British Irish Chamber of Commerce, British Council Ireland, Scottish Government in Ireland, Llwyodraeth Cymru yn yr Iwerddon, Ealaín na Gaeltachta, Creative Scotland, Bòrd na Gàidhlig, Cyngor Celfyddydau Cymru, a Cronfa Ffyniant Bro Cyngor Gwynedd.

Arlwy 2024

December 22, 2023 / no comments

Gwledd o theatr gan Theatr Bara Caws 

Yn 2024 bydd y llen yn codi ar flwyddyn o arlwy theatrig rhagorol gan Gwmni Theatr Bara Caws, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gyflwyno rhaglen uchelgeisiol fydd yn swyno, yn herio ac yn diddanu.

Mae amrywiaeth yn ganolog i weledigaeth y Cwmni, a cheisiwn bob tro sicrhau ein bod yn cynnig rhywbeth at ddant pawb gan roi llwyfan i gynyrchiadau fydd yn ysgogi trafodaeth, yn tanio dychymyg a’n cynnig llond bol o chwerthin – pob un yn gaddo profiadau bythgofiadwy i’n cynulleidfa.

 

 

  1. Chwefror 13 – 24: Taigh/Tŷ/Teach

Mae Taigh/Tŷ/Teach yn ddarn newydd o waith rhyngwladol, safle-benodol ac ar-lein sydd wedi’i ysgrifennu i’w berfformio mewn tair iaith Geltaidd frodorol: Y Gymraeg, Gaeleg yr Alban, a Gwyddeleg. Dyma brosiect rhyngwladol unigryw a chyffrous, a gyflwynir ar y cŷd â Theatre Gu Leòr, (Yr Alban), a chwmni Fishamble (Yr Iwerddon). Cyflwynir y cyfanwaith ar Ynys Lewis, yn Kerry ac yn lleoliad hudolus Nant Gwrtheyrn.

Taighyn Gaeleg yr Alban, Tŷ’ yn y Gymraeg a Teachyn y Wyddeleg. Yr un gair mewn gwahanol fydoedd. Yn agos at ei gilydd, ond hefyd yn bell, ond yn y bôn dyma le i orffwys.

Y cyd-destun yw ‘tŷ’ yn y cymunedau Cymraeg/Gaeleg/Gwyddeleg sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi, tai gwag, Air B&Bs, rhenti uchel, a diffyg tai fforddiadwy i’r bobl leol. Bydd y tri darn a ysgrifennwyd gan y tri awdur yn ymateb i’r heriau penodol sy’n berthnasol i bob gwlad, pob un ohonynt yn bodoli eisoes ond wedi gwaethygu ers y pandemig.

 

 

  1. Mai: Ffenast Siop

Er mwyn ateb galw mawr byddwn yn ail-gyflwyno Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym, ac yn ymestyn y daith wreiddiol.

Sioe un ddynes am Delyth, yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgîl y menopos. Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan…

‘Nes i chwerthin lot fawr a chrïo dagrau hallt heb sylwi bron…wedi wirioneddol ymgolli yn yr darn er waetha prysurdeb y maes jest tu allan’.

𝘛𝘩𝘦𝘮𝘢𝘶 𝘮𝘰𝘳 𝘣𝘸𝘺𝘴𝘪𝘨 𝘢 𝘨𝘸𝘺𝘤𝘩 𝘣𝘰𝘥 𝘩𝘸𝘯 𝘮𝘢𝘦 𝘗𝘈𝘞𝘉 𝘺𝘯 𝘮𝘺𝘯𝘥 𝘵𝘳𝘸𝘺𝘥𝘥𝘰 𝘺𝘯 𝘤𝘢𝘦𝘭 𝘦𝘪 𝘳𝘩𝘢𝘯𝘯𝘶 𝘨𝘺𝘥𝘢𝘯𝘪 𝘮𝘦𝘸𝘯 𝘧𝘧𝘰𝘳𝘥𝘥 𝘮𝘰𝘳 𝘥𝘥𝘰𝘯𝘪𝘰𝘭, 𝘦𝘮𝘰𝘴𝘪𝘺𝘯𝘰𝘭 𝘢 𝘤𝘩𝘢𝘳𝘦𝘥𝘪𝘨.’

𝘍𝘢𝘯𝘵𝘢𝘴𝘵𝘪𝘤! 𝘈𝘯𝘨𝘦𝘯 𝘨𝘸𝘯𝘦𝘶𝘥 𝘤𝘺𝘧𝘳𝘦𝘴 𝘥𝘦𝘭𝘦𝘥𝘶 𝘰 𝘩𝘸𝘯! 𝘠 𝘴𝘪𝘰𝘦 𝘰𝘳𝘢𝘶 𝘥𝘸𝘪 𝘥𝘪 𝘸𝘦𝘭𝘥 𝘦𝘳𝘴 𝘢𝘨𝘦𝘴!’

 

  1. Gorffennaf – Awst: Mwrdwr ar y Maes

Ac o’r diwedd dyma gyfle i wireddu gobeithion carfan arbennig o’n cynulleidfaoedd gan y byddwn yn cyflwyno sioe glwb newydd sbon gan Cwmni 303, sef Mwrdwr ar y Maes (A Oes Houmous?)…

Ar yr wyneb mae’r Eisteddfod wedi bod yn led lwyddiannus, a lot o boxes wediw ticio… Maen ddydd Gwener ar paf dan ei sang, ond daw trychineb.Yng nghanol y seremoni maer Archdderwydd yn disgyn yn farw…mae mwrdwr wedi bod ar y maes. Ymunwch â Hank Ginsberg a Shandy oNeill o Efrog Newydd – wel nage, o Rhyl – wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch…

Bydd hon yn teithio i glybiau o amgylch Cymru am 3 wythnos cyn dod i ben y daith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Ta.

Rhybudd: mae hon yn sioe i oedolion (sy’n licio laff) yn unig!

 

  1. Tachwedd: 1936

Drama abswrd am hanes, enwogrwydd, henaint a chysgod rhyfel yw 1936 gan Gruffudd Owen.

Yn nhafarn hynafol Y Penlan Fawr ym Mhwllheli mae Lloyd George yn mwynhau seibiant dros ei beint a’i bapur newydd, pan ddaw ei hen ‘gyfaill’, Adolf Hitler, heibio. Maer ddau yn rwdlian, yn hel atgofion, yn doethinebu, yn cwyno a’n cael dawns fach pan mae Hitler yn rhoi walz ar y jukebox…

Yn sgil perfformiad sgript-mewn-llaw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy, i gasglu ymateb ac adborth cynulleidfa, byddwn yn perfformio’r sioe ddadleuol hon mewn lleoliadau pwrpasol yn ein cymunedau. Os oes gennych ddiddordeb mewn hanes a gwleidyddiaeth – dyma’r sioe i chi.

Yn ogsytal â’r cynyrchiadau uchod byddwn yn:

  1. Cynnal cyfnodau o Y&D gyda 4 awdur ar ei sgriptiau comedi newydd ar gyfer ein prosiect Sgen ti Syniad?
  2. Cyflwyno Halibalŵ – gweithdai drama pwrpasol i gleientiaid Antur Waunfawr.

Draenen Ddu (2023)

September 7, 2023 / no comments

DRAENEN DDU

Cyfieithiad Angharad Tomos o Blackthorn gan Charley Miles.

Yn sgil llwyddiant ysgubol y cynyrchiad gan Bara Caws yn 2022 rydym yn ail deithio Draenen Ddu er mwyn ateb galw’r niferoedd na chafodd gyfle i’w weld.

Ar yr wyneb mae’n blanhigyn cwbl wahanol, ond yr un yw’r gwraidd.

 Dau o blant yn unig sydd wedi eu geni yn y pentref ers cenhedlaeth, ac mae’r ddau’n byw ym mhocedi ei gilydd, ond wrth iddynt dyfu mae’r clymau’n dechrau datod.

 Mae cefn gwlad yn newid a’r hen draddodiadau ac enwau ffermydd a chaeau dan fygythiad.

 Hen, hen thema sydd yma, a’n cael ei chyflwyno i genhedlaeth newydd a hynny mewn modd annwyl, doniol a dirdynol. Mae’r pwnc yn effeithio pob un ohonom, hen ac ifanc, trefol neu wledig. Beth ddaw o’n cymunedau ni, a chyfrifoldeb pwy yw eu parhad? Oes modd gwarchod ein treftadaeth ac ar yr un pryd sicrhau dyfodol i’n pobl ifanc yn eu cynefin?

Mae’r ddrama yma’n siwr o daro tant gyda’n cynulleidfaoedd cymunedol heddiw.

Cast: Rhian Blythe a Siôn Pritchard.

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Iwan Charles

Canllaw Oed 14 + (defnydd o iaith gref).

This is a Welsh language production, English precis will be available.