Er cof am Andrew Williams

September 13, 2023 / no comments

Er cof am Andrew Williams

Mae’n gyfnod tywyll iawn i ni yma yn Bara Caws wedi i ni glywed am farwolaeth annhymig Andrew. Bu’n gweithio’n glos gyda ni fel cyfrifydd ers y 1990au, a byddai prin wythnos yn mynd heibio heb iddo bicio heibio’r swyddfa rhyw ben neu’i gilydd, a’i lais yn diasbedain dros y lle…byddai pawb yn gwybod pryd oedd Andrew wedi camu i’r adeilad!

Roedd bob tro’n siriol, yn barod ei wên, ac yn hael ei gyfraniad, hyd yn oed pan oedd raid mynd i’r afael ag ambell beth funud olaf, roedd yn fwy na pharod i’n helpu.

Mae’r golled yn un fawr i ni, ond yn arbennig i Manon ac i weddill ei deulu. Cofiwn yn annwyl iawn amdano, a diolchwn am ei gyfeillgarwch a’i gyfraniad dros y blynyddoedd.