Er cof am Gareth Miles

September 13, 2023 / no comments

Heb Gareth dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi ysgrifennu fawr o ddim ar gyfer y theatr. Fo ac Ed Thomas roddodd y wobr i mi am ddrama hir yn Eisteddfod Genedlaethol, Castell Nedd, 1994. Y ddrama oedd Dyn Llnau Bogs. Meddyliais cyn ei hanfon ei bod hi’n rhy fyr. Felly ychwanegais rhyw gowdal o eiriau ciami ar ei diwedd. Sylw Gareth am hynny oedd, y bu bron iddo atal y wobr. Oherwydd rhaid i awdur sefyll wrth ei greadigaeth heb geisio glastwreiddio wedyn. Sylw arhosodd hefo mi.

Falla i Gareth ambell dro ddifaru fy rhoi ar y daith theatrig. Un sylw ganddo oedd: Cofia di mai pryddestwr wyt ti.

Yr oedd fy meddwl o Gareth yn fawr iawn. Dyn y Chwith oedd yn troi ei Farcsiaeth yn brofiadau theatrig. Ar un wedd, er na fyddaf yn licio’r math yma o ddweud, ond fe’i dywedaf, y Brecht Cymraeg. Cofiaf y profiad o weld Hunllef yng Nghymru Fydd, a meddwl yn syth am Brecht.

Ond y profiad dramatig ysgytwol a roddodd i mi oedd Banc y Byd. Drama gomisiwn gan Cymorth Cristnogol a wireddwyd drwy wagio Cadeirlan Bangor o ddodrefn a pharaffanelia eraill ac yn y gwagle hwnnw ein tywys, ac yr oedd y gynulleidfa’n gorfod cerdded o un man i’r llall, nid oedd seddi, i ddamio cyfalafiaeth fel y pechod gwleidyddol mwyaf erioed. Gadewais yn chwilio am y chwyldro.

Yn anffodus, gyda rhai eithriadau, prin yw’r math yna o theatr bellach. Mae rhyw fyfiaeth andwyol wedi ein cipio. Difyrru yw’r nod. ‘Bara a Syrcas’ y Rhufeiniaid a’r Toriaid fel ei gilydd. Theatr er mwyn gwylltio oedd nod Gareth. Ac o’r gwylltio gweithredu.

Ni fu efallai iddo gael y sylw yr oedd yn ei haeddu.

Yr oedd, ac y mae, yn ffigwr pwysig a wnaeth gyfraniad sylweddol iawn i’r theatr Gymraeg ac i lenyddiaeth Gymraeg.

Aled Jones Williams

 

Actor ifanc o’n i pan gyfarfyddais i Gareth am y tro cynta’. Wedi cael fy nghastio yn Ffatri Serch, gan y diweddar, annwyl Gruffydd Jones, yng nghynhyrchiad Cwmni Hwyl a Fflag ar gyfer ‘steddfod Genedlaethol Llambed, nôl yn 1984. Dwi’n cofio cynulleidfaoedd yn chwerthin lond eu boliau wrth i ni berfformio yn Neuadd Aberaeron gydol yr wythnos, ac yn ystod y daith wedyn. Comedi ie, ond comedi am beryglon cyfalafiaeth a’r isfyd sy’n bodoli dan wyneb cymdeithas ‘wâr’ oedd hi. Doedd glweidyddiaeth byth yn bell… Ac yna yn ei addasiad o Duges Amalffi – unwaith eto’n mynd ati, nid i gyfieithu’n unig, ond i gynnig golwg gwleidyddol gyfoes ar un o glasuron y traddodiad theatrig. Ac yn ei gyfres i HTV, Cyfyng Gyngor – y teitl yn awgrymu mai ein cynghorion lleol oedd o dan y lach (mewn tref ffuglennol wrth gwrs) wrth iddynt droi’r dŵr i’w melinau eu hunain.

Mi ddysgodd gymaint i mi am wleidyddiaeth ym myd y ddrama – ac yn enwedig am waith Brecht – gan fenthyg tapiau o Lotte Lenya’n canu i mi. “Ond dydw i ddim yn canu, Gareth”, meddwn i, “A dydi hi ddim chwaith”, medda fo, “Ond gwranda mor bwerus mae hi’n gallu trosglwyddo’r gwaith”.

Wedi i mi ymuno â Bara Caws fe gysylltodd ar ei union yn gofyn os o’n i’n gyfarwydd â gwaith Yasmina Reza, Le Dieu du Carnage. Awgrymodd mod i’n gwylio’r ffilm a’n darllen y gwaith yn Saesneg, gan ddweud ei fod yn awyddus iawn i’w chyfeithu/addasu i’r Gymraeg. Doedd dim rhaid gofyn ddwywaith, a chyflwynwyd Llanast! yn fuan wedyn. Cyfyng yw’n ngallu i yn Ffrangeg, ond roedd gen i ddigon i holi a chwestiynnu ambell benderfyniad wrth i ni drefulio oriau yn ei swyddfa ym Mhontypridd yn holi a stilio a chwestiynu, a fyntau’n estyn un o’r myrdd geiriaduron oedd yn rhan o’i gasgliad enfawr o lyfrau oedd yn britho’r ‘stafell, cyn picio am goffi i’r caffi cyfagos.

Mae’n amlwg i bawb nad i faes llenyddiaeth yn unig bu iddo gyfrannu, ac mae ei ddylanwad wedi bod yn allweddol ledled Cymru, a’i enw ynghlwm â chymaint o fudiadau gwleidyddol, ac anghyfiawnder cymdeithasol yn greiddiol i bopeth a wnâi.

Diolch iddo am ei gefnogaeth barhaol i mi’n bersonol, i Gwmni Bara Caws ac i fyd y theatr yng Nghymru yn gyffredinol. Mae bwlch mawr ar ei ôl.

Cofion lu at Gina a’r teulu cyfan.

Betsan Llwyd

(hawlfraint llun Cymdeithas yr Iaith)

Ymddeoliad Hapus Linda Brown!

June 27, 2023 / no comments

Rhagfyr 2022

Ar ran teulu Bara Caws DIOLCH MAWR IAWN i Linda am bopeth mae hi wedi ei wneud dros y cwmni a dros y sector yn gyffredinol.

Mae wedi cyflawni gwaith amhrisiadwy ers 40 mlynedd – oddeutu 129 o sioeau! Mae wedi bod yn fraint 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎭

Os ffrind, ffrind am byth🤩🥰

Er cof am Mei Jones

May 22, 2023 / no comments

Tachwedd 2021

Mei Jones

Roedd Mei yn un o hoelion wyth y byd celfyddydol yng Nghymru ali
gyfraniad i’r theatr ac i’r sgrin fach heb-ei-hail. Er mai fel Wali Tomos y
mae y rhan fwyaf yn ei gofio heddiw mae’n debyg, roedd yn gyfrifol am
gronfa gyfoethog o waith ac yn medru pontio’r llon a’r lleddf, y digrif ar
dwys yn ymddangosiadol ddi-ymdrech, gan serennu mew ffilmiau a
chyfresi ar y teledu ac ar ein Ilwyfannau.

Gyda Cwmni Bara Caws, mae’n debyg, y daeth ei dawn gynhenid i sgwennu
sgriptiau i amlygrwydd am y tro cyntaf, ac with bori drwy archif y Cwmni
rwy’n parhau i gael fy synnu gan ei weledigaeth theatrig (a esblygwyd ar y
cyd â’r aelodau eraill), a’ eiriau ffraeth a bachog sydd bob tro – a hyd heddiw
– n taro deuddeg.

Bu i rai o aelodau presennol y Cwmni gyd-weithio ag ef am flynyddoedd, ar
gynyrchiadau mor amrywiol à Bargen, Bynsan Binc, Pawb a’i Fys, Chware Plant,
lechyd Da, Tair Cainc a Hanner, heb sôn am y sioeau llai odd yn teithio i
ysgolion bryd hynny, ond ‘m rhan i, gweld y criw gwreiddiol yn cyflwyno
Hwyliau’n Codi yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ddiwedd y 1970au
agorodd fy llygaid i bosibiliadau cyffrous theatr yn yr iaith Gymraeg. Pent-
wr o focus cardbord, y mymryn lleiaf o oleuadau, tamaid o gyrten a Mei yn
perchnogir Ilwyfan.

Roedd yn berson deallus, ffraeth, carismataidd a heriol – byddai, a bydd, y
celfyddydau’n dipyn tlotach hebddo.

Er cof am Christine Pritchard

May 22, 2023 / no comments

Collodd y theatr yng Nghymru un o’i sêr disgleiriaf eleni pan fu farw Christine Pritchard. Roedd yn wyneb amlwg nid yn unig ar ein llwyfannau, ond hefyd ar y teledu a’r radio. Cafodd ei geni yng Nghaernarfon, ac yn ymfalchïo ei bod yn Gofi Dre, a phan yn yr ysgol, cafodd wahoddiad i ymuno â chwmni ‘rep’ Wilbert Lloyd Robert ym Mangor. Aeth yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Bryste cyn cymhwyso fel athrawes, ac mae’n debyg mai hi oedd un o’r graddedigion cyntaf i ymuno â’r VSO gan dreulio blwyddyn ar ynys St. Kitts yn y Caribî. Bu’n dysgu am gyfnod byr yn Llundain cyn dychwelyd i Gymru lle dechreuodd ei gyrfa hynod lwyddiannus ac amrywiol.

Bu’n gweithio gyda holl gwmnïau theatr blaenllaw Cymru, gan gynnwys Theatr yr Ymylon, Cwmni Theatr Cymru, Dalier Sylw, Bara Caws, ac roedd yn un sylfaenwyr Theatr Pena. Roedd hi hefyd yn wyneb poblogaidd ar y cyfryngau gan chwarae rhannau amlwg mewn cyfresi fel Dinas, Talcen Caled, Rala Rwdins, 35 Diwrnod a Cara Fi. Roedd ei hymrwymiad i’w chrefft a’i ethos gwaith heb eu hail, a doedd hi byth yn rhoi’r gorau i gwestiynnu ac i archwilio er mwyn cyflwyno’r perfformiad gorau posib. Bu’n gweithio gyda Bara Caws sawl gwaith dros y blynyddoedd gan gymryd rhan yn Croesi’r Rubicon, Dulce Domum ac yn fwyaf diweddar, Dim Byd Ynni, ein cynhyrchiad yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.

Gwelais hi am y tro cyntaf ar lwyfan yn chwarae Blodeuwedd nôl yn y 1970au hwyr a finnau dal yn yr ysgol, a mi gofiaf ei phresenoldeb trawiadol hyd heddiw. Wrth i ‘ngyrfa i ddatblygu bûm yn ddigon ffodus i weithio gyda hi ar sawl achlysur gan dreulio oriau difyr yn ei chwmni – ar ac oddi ar y llwyfan.

Roedd Christine yn un o’r bobl unigryw hynny y mae rhywun weithiau’n ddigon ffodus i daro arnynt ar daith bywyd, gyda phawb a gafodd y fraint o’i hadnabod yn tystio i’w chyfeillgarwch, ei brwdfrydedd, ei hegni a’i synnwyr digrifwch. Cofiwn yn annwyl iawn amdani.