Gwledd o theatr gan Theatr Bara Caws
Yn 2024 bydd y llen yn codi ar flwyddyn o arlwy theatrig rhagorol gan Gwmni Theatr Bara Caws, ac edrychwn ymlaen yn fawr at gyflwyno rhaglen uchelgeisiol fydd yn swyno, yn herio ac yn diddanu.
Mae amrywiaeth yn ganolog i weledigaeth y Cwmni, a cheisiwn bob tro sicrhau ein bod yn cynnig rhywbeth at ddant pawb gan roi llwyfan i gynyrchiadau fydd yn ysgogi trafodaeth, yn tanio dychymyg a’n cynnig llond bol o chwerthin – pob un yn gaddo profiadau bythgofiadwy i’n cynulleidfa.
- Chwefror 13 – 24: Taigh/Tŷ/Teach
Mae Taigh/Tŷ/Teach yn ddarn newydd o waith rhyngwladol, safle-benodol ac ar-lein sydd wedi’i ysgrifennu i’w berfformio mewn tair iaith Geltaidd frodorol: Y Gymraeg, Gaeleg yr Alban, a Gwyddeleg. Dyma brosiect rhyngwladol unigryw a chyffrous, a gyflwynir ar y cŷd â Theatre Gu Leòr, (Yr Alban), a chwmni Fishamble (Yr Iwerddon). Cyflwynir y cyfanwaith ar Ynys Lewis, yn Kerry ac yn lleoliad hudolus Nant Gwrtheyrn.
‘Taigh’ yn Gaeleg yr Alban, ‘Tŷ’ yn y Gymraeg a ‘Teach’ yn y Wyddeleg. Yr un gair mewn gwahanol fydoedd. Yn agos at ei gilydd, ond hefyd yn bell, ond yn y bôn dyma ‘le i orffwys’.
Y cyd-destun yw ‘tŷ’ yn y cymunedau Cymraeg/Gaeleg/Gwyddeleg sy’n cael eu heffeithio gan ail gartrefi, tai gwag, Air B&Bs, rhenti uchel, a diffyg tai fforddiadwy i’r bobl leol. Bydd y tri darn a ysgrifennwyd gan y tri awdur yn ymateb i’r heriau penodol sy’n berthnasol i bob gwlad, pob un ohonynt yn bodoli eisoes ond wedi gwaethygu ers y pandemig.
- Mai: Ffenast Siop
Er mwyn ateb galw mawr byddwn yn ail-gyflwyno Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym, ac yn ymestyn y daith wreiddiol.
Sioe un ddynes am Delyth, yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgîl y menopos. Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan…
‘Nes i chwerthin lot fawr a chrïo dagrau hallt heb sylwi bron…wedi wirioneddol ymgolli yn yr darn er waetha prysurdeb y maes jest tu allan’.
‘𝘛𝘩𝘦𝘮𝘢𝘶 𝘮𝘰𝘳 𝘣𝘸𝘺𝘴𝘪𝘨 𝘢 𝘨𝘸𝘺𝘤𝘩 𝘣𝘰𝘥 𝘩𝘸𝘯 𝘮𝘢𝘦 𝘗𝘈𝘞𝘉 𝘺𝘯 𝘮𝘺𝘯𝘥 𝘵𝘳𝘸𝘺𝘥𝘥𝘰 𝘺𝘯 𝘤𝘢𝘦𝘭 𝘦𝘪 𝘳𝘩𝘢𝘯𝘯𝘶 𝘨𝘺𝘥𝘢𝘯𝘪 𝘮𝘦𝘸𝘯 𝘧𝘧𝘰𝘳𝘥𝘥 𝘮𝘰𝘳 𝘥𝘥𝘰𝘯𝘪𝘰𝘭, 𝘦𝘮𝘰𝘴𝘪𝘺𝘯𝘰𝘭 𝘢 𝘤𝘩𝘢𝘳𝘦𝘥𝘪𝘨.’
‘𝘍𝘢𝘯𝘵𝘢𝘴𝘵𝘪𝘤! 𝘈𝘯𝘨𝘦𝘯 𝘨𝘸𝘯𝘦𝘶𝘥 𝘤𝘺𝘧𝘳𝘦𝘴 𝘥𝘦𝘭𝘦𝘥𝘶 𝘰 𝘩𝘸𝘯! 𝘠 𝘴𝘪𝘰𝘦 𝘰𝘳𝘢𝘶 𝘥𝘸𝘪 𝘥𝘪 𝘸𝘦𝘭𝘥 𝘦𝘳𝘴 𝘢𝘨𝘦𝘴!’
- Gorffennaf – Awst: Mwrdwr ar y Maes
Ac o’r diwedd dyma gyfle i wireddu gobeithion carfan arbennig o’n cynulleidfaoedd gan y byddwn yn cyflwyno sioe glwb newydd sbon gan Cwmni 303, sef Mwrdwr ar y Maes (A Oes Houmous?)…
Ar yr wyneb mae’r Eisteddfod wedi bod yn led lwyddiannus, a lot o boxes wedi’w ticio… Mae’n ddydd Gwener a’r paf dan ei sang, ond daw trychineb.Yng nghanol y seremoni mae’r Archdderwydd yn disgyn yn farw…mae mwrdwr wedi bod ar y maes. Ymunwch â Hank Ginsberg a Shandy o’Neill o Efrog Newydd – wel nage, o Rhyl – wrth iddynt geisio datrys y dirgelwch…
Bydd hon yn teithio i glybiau o amgylch Cymru am 3 wythnos cyn dod i ben y daith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Ta.
Rhybudd: mae hon yn sioe i oedolion (sy’n licio laff) yn unig!
- Tachwedd: 1936
Drama abswrd am hanes, enwogrwydd, henaint a chysgod rhyfel yw 1936 gan Gruffudd Owen.
Yn nhafarn hynafol Y Penlan Fawr ym Mhwllheli mae Lloyd George yn mwynhau seibiant dros ei beint a’i bapur newydd, pan ddaw ei hen ‘gyfaill’, Adolf Hitler, heibio. Mae’r ddau yn rwdlian, yn hel atgofion, yn doethinebu, yn cwyno a’n cael dawns fach pan mae Hitler yn rhoi walz ar y jukebox…
Yn sgil perfformiad sgript-mewn-llaw yn Nhafarn y Plu, Llanystumdwy, i gasglu ymateb ac adborth cynulleidfa, byddwn yn perfformio’r sioe ddadleuol hon mewn lleoliadau pwrpasol yn ein cymunedau. Os oes gennych ddiddordeb mewn hanes a gwleidyddiaeth – dyma’r sioe i chi.
Yn ogsytal â’r cynyrchiadau uchod byddwn yn:
- Cynnal cyfnodau o Y&D gyda 4 awdur ar ei sgriptiau comedi newydd ar gyfer ein prosiect Sgen ti Syniad?
- Cyflwyno Halibalŵ – gweithdai drama pwrpasol i gleientiaid Antur Waunfawr.