Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws
  • Hafan
  • Sioeau
    • Cariad yn Oes y Gin
    • Un Nos Ola Leuad
    • Lleisiau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English
  • Hafan
  • Sioeau
    • Cariad yn Oes y Gin
    • Un Nos Ola Leuad
    • Lleisiau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English

Dwyn i Gof

May 14, 2018 / no comments

Slide

Mae Huw a Bet yn briod ers 40 mlynedd a Gareth, eu unig fab, ar fin priodi Cerys. Mae trefniadau i’w cadarnhau. Mae Huw’n benderfynol o chwarae ei ran ond gyda’i gof yn araf ddadfeilio mae perygl i gyfrinachau hen a newydd gael eu datgelu. Ond pa mor fregus yw Huw mewn gwirionedd? Sut mae Bet yn ymdopi â’r sefyllfa? Oes rheswm gan Gareth i boeni am bechodau’r tadau, ac a yw Cerys yn gweld y tad yn y mab?

Mae Dwyn i Gof yn ddrama ddifyr a phryfoclyd sy’n cyfuno’r dwys a’r digrif wrth sôn am bwnc cyfredol, sydd ‘ar feddwl’ pawb y dyddiau hyn.

Yng ngeiriau dihafal Meic ei hun, “Y rheswm esh i ati i sgwennu am y pwnc penodol yma ydi hyn: O’r holl bethau all ein lladd – ac fel dywedodd yr Americanwr adnabyddus, (sic) Anthony Hopkins unwaith, ‘nobody gets out of this alive’ – yn bersonol, colli dy gof ydi’r cyflwr sy’n codi mwya’ o ofn arna’i.”

Meddai Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, “’Roedd Meic wedi gyrru’r ddrama atom llynedd, ac ‘ro’n i wrthi’n dechrau rhyw gyfathrebu ynglŷn â hi pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. ‘Roedd wedi dweud ei hun bod angen rhagor o waith arni, felly ‘ro’n i mewn cyfyng-gyngor. Yna deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin ei ferch, yn ei ffordd unigryw ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r dasg asap! – a fel ddeudodd Catrin, ‘Pwy yda ni i ignorio hynny?’ Felly dyma ni!  Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio, ond bydd hi – fel bob tro – yn fraint.”

‘Rydym wrth ein bodd fod y cast canlynol wedi derbyn yr her - mae pob un o aelodau’r cast yn wynebau cyfarwydd iawn ar lwyfannau ac ar y sgrîn:

Sara

Sara Gregory

Actores Orau Gwobrau Theatr Cymru 2015 – Contractions (Iain Goosey/Chapter); Woman of Flowers (Pena); Home, I’m Darling (National Theatre/Theatr Clwyd); Actores Orau BAFTA Cymru 2013 – Alys (Apollo/S4C); Byw Celwydd (Tarian/S4C); Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory/BBC/S4C)

gwenno

Gwenno Elis Hodgkins

Enwebwyd Actores Orau Gwobrau Theatr Cymru 2015 – Drych (Frân Wen); Yn Debyg Iawn i Ti a Fi (Bara Caws a Theatr Genedlaethol Cymru); Ŵy Chips a Nain (Frân Wen); Sombreros (Cwmni Da/S4C); Tipyn o Stâd (Cwmni Da/S4C); Y Mynydd Grug (Llun y Felin/S4C)

Rhodri Meilir

Actor Gorau Gwobrau Theatr Manceinion 2018 How My Light is Spent, (Manchester Royal Exchange); Mametz (NTW); Lysh (Bara Caws); Byw Celwydd (Tarian/S4C); Dan y Wenallt/Under Milk Wood (fFati fFilms); Craith/Hidden (S4C/BBC/Severn Films)

rhodri

Llion Williams

Actor Gorau Cymraeg Gwobrau Theatr Cymru 2016 – Chwalfa (Theatr Genedlaethol Cymru); Actor Gorau Saesneg Gwobrau Theatr Cymru 2016 – Belonging (Re-Live); Difa a Llanast! (Bara Caws); Lan a Lawr (S4C); Y Gwyll/Hinterland (Fiction Factory/S4C/BBC); C’Mon Middfild (Nant/S4C)

llion
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Dwyn I Gof
Taith-Dig-ir-wefan2

Gair o Gariad 2018

May 11, 2018 / no comments

Cliciwch YMA i archebu eich tocynnau

GAIR O GARIAD

“Mae cerddoriaeth yn llenwi gofod rhwng pobol”

Yn anad yr un sioe arall mae Gair o Gariad yn wahanol iawn i’r un sioe arall fyddwch wedi ei gweld.  Bydd Lleuwen a Rhodri yn eich croesawu a’n cynnig gwydriad o win neu ddŵr pefriog i chi wrth i chi gyrraedd, ac yna cewch ddilyn stori garu’r ddau wrth iddynt sgwrsio â’i gilydd drwy gerddoriaeth. Ond yr hyn sy’n gwneud y cyflwyniad yn un cwbl gyffrous yw’r ffaith fod y rhan helaeth o’r sioe’n cael ei chreu’n arbennig bob nos yn sgil ceisiadau am ganeuon sy’n cael eu cyflwyno o flaen llaw gan ein cynulleidfaoedd.  Gall y ceisiadau bendilio o’r dwys i’r doniol, o’r melys i’r chwerw, a phob un yn cyfrannu at berfformiad unigryw a chwbl berthnasol i bob cynulleidfa unigol.  A gallant gael eu cyflwyno i unrhywun – yn ŵr, gwraig, cariad, ffrind, mam, tad, nain, taid, cath, ci ayb ayb – efallai fod rhywun yn dathlu pen-blwydd, neu’ch bod yn dathlu pen-blwydd priodas ar noson un o’r perfformiadau?

Does dim rhaid cyflwyno cais os am weld y sioe, ond yn sgil ei pherfformio llynedd ‘roedd pawb yn dweud eu bod naill ai’n difaru nad o’n nhw wedi gwneud, neu nad o’n nhw wedi ‘sgwennu ceisiadau mwy manwl!

40 tocyn yn unig sydd ar gael i bob perfformiad, felly cyntaf i’r felin.

Pytiau o geisiadau:

… i Phyllis er cof am Merêd… Diolch – Er imi ei gweld yn ddiweddar mi anghofish i ddeud hynny…

…Mam, mae hi’n fis Mai eto, a dwi isho i chi wybod mod i’n cofio…

… i’r ardal arbennig yma ‘da ni’n byw ynddi.

…i ‘ngŵr… dwi’n cofio teimlo bod y gwaethaf drosodd, a bod y gwanwyn yn dod…

…Diolch Dad am fod yn chi…Diolch am ganu i mi pan o’n i’n methu cysgu ar ben fy hun. 

…Wel, hon ‘di’r gân ora’n y byd, felly dwi’n ‘i dedicatio hi i fi’n hun!

Gair gan y gynulleidfa:

…Wel sôn am siwrne o brofiadau, o chwerthin afreolus ac embaras pur, i atgyfodi hen atgofion hir-golledig…Gadawodd pawb â llygaid sgleiniog, a gwên lygad yr un…

…welais i focsus o tissues yn cael eu pasio rownd y byrddau sawl gwaith, a cafodd y gynulleidfa ei chyffwrdd yn emosiynol gan y sioe…

Perfformwyr: Lleuwen Steffan a Rhodri Sion

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Technegwyr: Berwyn Morris-Jones, Emyr Morris-Jones

Ffurflen Gais ar gyfer Gair o Gariad

Enw (gofynnol)

Ebost (gofynnol)

Rhif ffôn

Dyddiad y perfformiad

Wyt ti am fod yn ddi-enw, neu wyt ti’n hapus i gael dy enwi?:

Enw’r gân neu ddarn o gerddoriaeth ti am ei chlywed/glywed, a phwy sy’n canu/chwarae:

I bwy mae’r gân hon yn cael ei chyflwyno a pham? Pam fod y person/y bobol/y lle yma, a’r gân mor bwysig i ti? Oes gen ti atgofion penodol i’w rhannu? Ydi’r gân yn d’atgoffa di o rhyw gyfnod arbennig? Petai ti’n cael cyfle, beth fyddet ti’n ddweud wrth yr unigolyn/bobl yma wyneb yn wyneb? ‘Sgwenna faint a fynni!

gog-postar

Brêcshit

April 9, 2018 / no comments

Brêcshit

Mae teulu Doris Morris wedi bod yn ffarmio yn Bryn-Cwd-yr-Arian ers canrifoedd, ond yn dilyn Brexit mae wedi gorfod arall-gyfeirio. Bellach mae hi’n rhedeg clinig therapiwtig i bobl gyda bob math o broblemau.

A fydd hi’n llwyddo i gadw’r blaidd o’r drws ac i gadw ei hetifeddiaeth? Cawn weld!

cefn-flyer-Brecshit-edit-comp

© Bara Caws 2022 Rhif Cwmni | Company No : 0330 1990 Rhif Elusen | Charity No: 1062896