Gair o Gariad
Dewch i gynnig llwnc destun i gariadon o bob math…cariadon hen a newydd.
Cariad rhwng dau, rhwng dwy, rhwng plant a’u rhieni, rhwng ffrindiau, rhwng perchnogion a’u hanifeiliaid…a chawn rannu atgofion melys, dwys a doniol…
Cast: Lisa Jên Brown, Carwyn Jones
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd, Jessica Hoffmann
Dymuna Theatr Bara Caws mewn cydweithrediad â Chwmni Uninvited Guests eich gwahodd i rannu atgofion melys, dwys, doniol neu amwys mewn digwyddiad unigryw. Gyrrwch gais am gân i’r cwmni o flaen llaw gan nodi pam fod y darn hwn o gerddoriaeth mor bersonol i chi. Efallai bydd eich ‘Gair o Gariad’ yn cael ei blethu i gorff y sioe, a’n rhoi cyfle i bawb gyd-rannu profiadau hiraethus, hapus, trist, digrif…
Tocynnau:
Menter Môn: 01248 725700