Mei Jones Roedd Mei yn un o hoelion wyth y byd celfyddydol yng Nghymru ali gyfraniad i’r theatr ac i’r sgrin fach heb-ei-hail. Er mai fel Wali Tomos y mae y rhan fwyaf yn ei gofio heddiw mae’n debyg, roedd yn gyfrifol am gronfa gyfoethog o waith ac yn medru pontio’r llon a’r lleddf, y […]
Collodd y theatr yng Nghymru un o’i sêr disgleiriaf eleni pan fu farw Christine Pritchard. Roedd yn wyneb amlwg nid yn unig ar ein llwyfannau, ond hefyd ar y teledu a’r radio. Cafodd ei geni yng Nghaernarfon, ac yn ymfalchïo ei bod yn Gofi Dre, a phan yn yr ysgol, cafodd wahoddiad i ymuno â […]
'Sgen ti Syniad
Er cof am Sion Eirian
Arlwy yn ystod Covid-19
Art Makes Our World a Better Place Theatr Bara Caws Appeal 2019
Gwell Celfyddyd Na Thrysor Apêl Theatr Bara Caws 2019
COSTA BYW gan Mari Elen Jones, Mared Llywelyn Williams, Llyr Titus Bara Caws, mewn cydweithrediad â Cwmni Tebot, yn cyflwyno Costa Byw – rifíw hwyliog sy’n dychmygu sut le fydd Gwynedd mewn blynyddoedd i ddod. Cewch ambell gip ar broblemau cyfoes – mewnfudo, diffyg swyddi, cost tai, gwleidyddion, newid hinsawdd, crîm egs yn mynd yn […]
Bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn cynnal prosiect Ymchwil & Datblygu am bythefnos ar lyfr Angharad Tomos, Wrth fy Nagrau I, rhwng y 4ydd a’r 16eg o Ragfyr eleni.
‘Roedd lot o hwyl yma ddydd Gwener diwethaf wrth i griw ddod at ei gilydd i ddechrau trafod syniadau ar gyfer y sioe glwb nesaf.
Wrth i Theatr Bara Caws ddathlu’I ben-blwydd yn ddeugain oed eleni, y cynhyrchiad olaf i nodi’r dathlu yw Dim Byd Ynni gan Emlyn Gomer a fydd yn agor yn Eisteddfod Genedlaethol Môn fis Awst. Bydd pedwar perfformiad o’r ffars newydd hon yn yr Eisteddfod cyn iddi deithio ym Medi a Hydref eleni.
Y digwyddiad sy’n coroni’r dathlu yw’r Te Parti Pen-blwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. Mae 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i griw bychan, brwd o ymarferwyr ddod at ei gilydd a rhoi ’sgytwad iawn i fyd y theatr yng Nghymru. Ac mae Gwasg Carreg Gwalch am lansio llyfr mawr llawn atgofion lliwgar i nodi’r […]
Mae Mari Emlyn bellach wedi dychwelyd i’w swydd ar ôl ei chyfnod mamolaeth – llongyfarchiadau gwresog iddi hi a’r teulu bach ar enedigaeth Ela Emlyn.