Ers ddros ddeugain mlynedd bellach mae Theatr Bara Caws wedi bod yn darparu gwasanaeth unigryw i gynulleidfaoedd ar lawr gwlad ledled Cymru.  ‘Rydym yn cynnig profiadau theatrig o’r radd flaenaf, dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i galon Cymru, a chalonnau’r Cymry.

Yng Nghaernarfon mae cartref y Cwmni, ond drwy deithio mor eang mae cyrhaeddiad ein buddiolwyr yn ymestyn ymhell tu hwnt i ffiniau Gwynedd, gan gyrraedd pobl na fyddai fel arall yn cael mwynhau profiadau theatrig byw. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae dros 9000 o bobl wedi mynychu ein cynyrchiadau mewn canolfannau o bob math, yn neuaddau pentref, yn theatrau, yn glybiau a thafarndai, ac yn yr awyr agored.

‘Rydym yn cyflogi oddeutu 40 o ymarferwyr llawrydd ar gyfartaledd bob blwyddyn, ac yn cynnig hyfforddiant a mentoriaeth i brentisiaid technegol ifanc er mwyn sicrhau dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

Fel elusen gofrestredig (Rhif Elusen – 1062896) ’rydym yn dibynnu ar gymorth gan gefnogwyr, noddwyr a chyllidwyr – DIOLCH I BAWB SYDD EISOES YN EIN CEFNOGI – ac yn sgil eich cyfraniad chi gallwn barhau i wireddu ein huchelgais ac ymestyn amcanion y Cwmni’n fwy fyth.

Os hoffech wybod rhagor am y Cwmni ac am y gwahanol ffyrdd y gallwch gyfrannu at ein gwaith, cysylltwch â mari@theatrbaracaws.co.uk / 01286 675 869