Teitl y Swydd: Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid
Graddfa Cyflog: £26,000.00 – £35,060.00 (yn ddibynnol ar brofiad)
Lleoliad: Caernarfon neu leoliadau eraill yn unol â gofynion busnes, (gweithio o adre yn ôl yr angen).
Oriau Gwaith: 38 awr yr wythnos
Mae Cwmni Theatr Bara Caws wedi bod yn cyflwyno cynyrchiadau Cymraeg o bob math yng nghalon cymunedau Cymru ers dros 40 mlynedd. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Rheoli fel Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid. Dyma gyfle gwych (a phrin!) i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan yng ngham nesaf cyffrous y Cwmni unigryw yma. Edrychwn ymlaen at ail-gychwyn teithio, at gwrdd â’n cynulleidfaoedd niferus wyneb yn wyneb unwaith eto, ac at symud i gartref newydd sbon!
Tyrd efo ni ar y daith.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol a chyllid i’r Cwmni. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, sydd â diddordeb mewn theatr gymunedol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib.
Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
Am swydd-ddisgrifiad fanwl a rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mari Emlyn:
mari@theatrbaracaws.com neu cysylltwch ar 07880 031 302
I wneud cais anfonwch eich CV a llythyr yn nodi sut yr ydych yn gymwys i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd at mari@theatrbaracaws.com
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 22 Ebrill 2022.
Siôn Eirian
(1954 – 2020)
I drymgwsg y didramgwydd – y cwympaist,
Ein campwr ddramodydd.
Hedd y daith ar ddiwedd dydd
Didrannoeth a didrennydd.
Emlyn Williams
Y tro cyntaf welais i Siôn oedd ar lwyfan Ysgol Maes Garmon – minnau yn fy mlwyddyn 1af a fo’n y 6ed – pan oedd o’n perfformio mewn pantomeim ‘roedd o wedi ei ‘sgwennu, a hyd yn oed bryd hynny ‘roedd o’n licio gwthio ffiniau… Ac mi barhaodd i wneud hynny gydol ei yrfa, ond byth herio er mwyn herio’n unig — ‘roedd o’n teimlo’n angerddol ynglŷn ag agor llygaid cynulleidfaoedd i bob math o themâu a phosibiliadau, ac er ei fod wedi bod yn llenor toreithiog ym mhob maes, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ‘dwi’n bendant mai ‘sgwennu ar gyfer y llwyfan oedd o’n fwynhau fwyaf, oherwydd dyma lle oedd o’n teimlo bod ganddo’r rhyddid i ddefnyddio’i lais ei hun.
Pan ymunais i â Bara Caws fel Cyfarwyddwr Artistig mi gysylltodd yn gofyn am gael cyd-weithio ac mae hi wedi bod yn siwrne gyfoethog, ddiddorol a hapus dros ben.
Bu i ni lwyfannu Garw yn 2014 ac Yfory yn 2016 a bu’r ddwy’n llwyddiannau ysgubol gan ddenu cynulleidfaoedd yn eu cannoedd ac ennill gwobrau lu – gan gynnwys yr Awdur Gorau yn Gymraeg i Siôn ddwy waith. Ein bwriad oedd llwyfannu’r drydedd yn ei drioleg gwleidyddol, Fienna, fis Medi eleni ond oherwydd y pandemig ‘roedd rhaid gohirio. Pan gysylltais â Siôn i egluro ‘roedd yn deall i’r dim ond yn daer i ni barhau â’n cynlluniau o lwyfannu’r ddrama olaf i ni ei gomisiynu ganddo, Byd Dan Eira, yn ystod 2021 gan ei bod yn nodi 40 mlynedd ers sefydlu Gwersyll Heddwch Comin Greenham gan griw o ferched o Dde Cymru. Mi drïwn ein gorau i wireddu ei ddymuniad.
Bob tro byddem ni’n cyfarfod ‘roedd y sgyrsiau’n dilyn pob math o lwybrau – ‘roedd o’n athrylith, yn angerddol, yn annwyl, yn weithiwr diflino, yn gefnogol, yn werthfawrogol o bopeth a’n llawn hiwmor direidus – fyddai’n cadw’r negeseuon (cyfrinachol!) aeth nôl ac ymlaen rhyngom am byth.
Betsan
Credai Siôn yn angerddol bod yn rhaid i bob cenedl ymdrechu i greu awyrgylch ble byddai artistiaid yn gyffredinol, ac awduron yn benodol, yn gallu datblygu a ffynnu… Ymroddodd o’i egni a’i amser i geisio sefydlu a datblygu cymuned o ysgrifenwyr proffesiynol yng Nghymru, yn ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe wnaeth hynny yn ddiflino. Roedd ei ddeallusrwydd, ei gymeriad hawddgar, ei ffraethineb, ei uniondeb gwleidyddol a phroffesiynol, yn ogystal â’i gefnogaeth garedig a hael o ysgrifenwyr eraill, yn ddigymar. Mae gan lawer o ysgrifenwyr yng Nghymru heddiw le i ddiolch yn fawr iawn i Siôn am eu teithiau hwythau drwy gelfyddyd ysgrifennu.
Ond er ei holl lwyddiannau, mi roedd Siôn yn ddyn diymhongar, wastad yn barod i ddysgu, i wella, i’w “gael e’n iawn”. Byddai’n ymchwilio yn ddyfal, ac yn ail-sgwennu ac yn adolygu ei waith yn ddiflino. Roedd ei lais yn unigryw, ei ddawn yn unigryw, a’i ddynoliaeth yn ddiamheuol. Yn syml, does yna neb fel Siôn wedi bod erioed, a bydd neb yn camu i’w esgidiau. Mae’n golled enfawr arall i’r gymuned greadigol yng Nghymru, ac mi fydd yn gadael bwlch enfawr ar ei ôl.
Manon Eames
Er mai ond llond dwrn o weithiau nes i gwrdd â Siôn mi o’n nhw’n achlysuron sy’n aros yn y cof. Y rheswm penna am hyn oedd fod Siôn byth yn rhuthro o gwmni rhywun, hyd yn oed os oedd ’na bobol llawer pwysicach a diddorol yn ceisio dal ei lygad. Bonheddwr yn sicr, ond hefyd rhywun a oedd wir yn gwrando ar bobol, eu storïau, eu barn, eu dyheuadau a’u hanes. Dwi’n cofio’r cyfarfod cyntaf yn glir, alla’i weld e’ nawr, yn eistedd wrth y bar gyda merch ifanc hardd, Erica, yng nghlwb rygbi St Peter, Newport Rd rhywbryd yn yr ‘80au cynnar. Wrth i mi agosau at y bar y peth nesa roedd Siôn yn brasgamu ata i gyda gwên anferth a’i law wedi’i hestyn yn barod i gyfarch. O fewn charter awr o’n i’n teimlo fel hên ffrind mynwesol iddo…i Siôn Eirian!…o’n i mor browd.
Fel o’n i’r tro ola i mi dreulio rhai oriau yn ei gwmni. Noson Gwobrau Theatr Cymru yn 2015 lle naethon ni, Theatr Bara Caws, gyda’r sioe Garw gan Siôn, ennill pedair gwobr. Anhygoel o noson.
‘Roedd chwarae Llew yn Garw yn brofiad cathartig a dweud y lleia. Dwi’n cofio’r cyfnod mae’r ddrama wedi’i seilio ynddo’n glir, y dynfa a’r newidiadau oedd yn digwydd i gymunedau bach yng Nghymru yn ystod, ac yn dilyn, streic y glowyr yn yr ‘80au, ac yn amlwg, ‘roedd Siôn hefyd. ‘Roedd taith y cymeriadau, y teulu bach ‘ma oedd yn cynrychioli ffawd miloedd o deluoedd yn y cyfnod dirdynnol hwnnw, yn un truenus ac ar brydiau yn boenus, ond yn stori hynod o bwysig i’w rhannu, wrth i ni wylio eu dyheadau a’u bywydau’n gorfod newid yn llwyr. Wrth gwrs, fel pob awdur gwerth ei halen, ‘roedd Siôn wedi plannu hiwmor a chwithigrwydd ynghanol yr anobaith.
I mi fel actor, ‘roedd yr arfau a roddodd Siôn i’r cymeriad yn amrhisiadwy. Y cyn-lowr sy’n heneiddio a’n ceisio dygymod â’i ddiweithdra, ei gwm a’i deulu yn cael eu rhwygo’n ddarnau…a’r cyn-baffiwr yn gorfod dod i delerau â’r ffaith nad oes unrhywun na unrhywbeth i’w ddyrnau frwydro er mwyn ennill unrhywfath o hunanbarch bellach. Pegynnau dirdynnol llawn emosiwn wedi’u hysgrifennu mor grefftus. Heb y math yma o ysgrifennu dwi’n ffindio hi’n wir anodd i wneud cyfiawnder o bortreadu a rhannu teimladau a neges cymeriad gyda’m cynulleidfa. I mi mae’r geiriau’n hanfodol. Diolch amdanyn nhw Siôn.
Rhys Parry-Jones
Wnai byth anghofio Siôn a mi yn mynd i lawr i Lundain yn dilyn arholiadau lefel O. Siôn oedd yn arwain ac wedi trefnu’r itinirary llawn o ffilmiau a dramau. Dwi’n cofio gweld Woodstock, The Pride of Miss Jean Brody, Women in Love ynghyd â llu o sioeau eraill. Siôn a drefnodd pob dim ond wedi gweld 3 ffilm/sioe mewn diwrnod roedd mynd i weld Abelard A Heloise yn un sioe yn ormod imi, er bod gweld Dianna Rigg yn noeth ar y llwyfan yn temptio… aeth Siôn ar ei ben ei hun.
Selwyn Jones (Palas Print)
Pan dda’th yr alwad i fod yn rhan o gast arbennig Yfory – drama wleidyddol amserol Siôn dan ofal a chyfarwyddyd meddylgar Betsan – dodd dim amheueth mai ie fyddai’r ateb. Cefndir y ddrama yw’r cyfnod helbulus pan trodd consensws y byd gwleidyddol ar ‘i phen gyda Brexit ac ethol Trump yn America. Fel fydde’r Cynulliad yn ymateb i effeithie’r daeargryn ysgytwol ‘ma? Gyda’i ddeallusrwydd
a’i wybodeth ‘encyclopedic’ o hanes cymhleth gwleidyddiaeth Cymru, rodd y cynhyrchiad mewn dwylo saff.
Fel actorion – cawsom y cyfle amhrisiadwy o gyd-ddarllen y ddrama
yng nghartre’ Siôn a dechre dod i ddeall beth odd taith y cymeriade’. Mawr odd yn edmygedd fel y fydde fe’n gweu a phlethu ieithwedd byd y Senedd i fod yn rhan o batrwm rhwydd y deialog.
Ar un lefel, portread o wleidyddiaeth egwyddorol delfrydol ydy Yfory a’r gwrthdaro a ddaw gyda realiti ‘trade off’ pragmataidd synicaidd y gwleidydd sydd yn arbed ei yrfa ac yn cadw ar ben yr ysgol ar draul popeth. Ar ôl blynyddoedd o bolisie tebyg yn Ngherdydd a Llunden – mae Siôn yn ein harwain i’r casgliad anorfod taw pris hyn i gyd fydde Brexit, Trump, Erdogan a Victor Orban yn Hungary. Gwefreiddiol oedd dod â’r ddrama i lwyfanne’ ar draws Cymru, a chynnal trafodeth gyda rhai o’r gynulleidfa ar ôl y perfformiad, a gwrando ar Siôn yn ymateb i gwestiyne yn ymwneud â’r ddrama a dyfodol Cymru tu fas i Ewrop a thu hwnt.
Pwy a ŵyr? – ymhen amser mi fydde fe wedi ‘sgrifennu drama sy’n
delio gyda effeth Covid19 ar Gymru a’r cwestiyne dyrys am hil ac hanes amheus Prydeinig sydd wedi dod i’r wyneb ‘to. Braint oedd cyd-weithio gyda’r athrylith tawel, hynod deallus hwn, a chydymdeimlaf gydag Erica ei wraig a Guto’i frawd ar eu colled.
Dewi Rhys Williams.
Mae colli Siôn yn dristwch mawr i ni gyd. Roedd yn ffrind annwyl personol ac yn wir ffrind i’r theatr yng Nghymru.
Wyn a Gwen
Mae’r misoedd dwytha ‘ma wedi golygu bod ein cynlluniau ni ar gyfer gweddill y flwyddyn wedi newid. Gewn ni ddim ymarfer hefo’n gilydd heb sôn am deithio ar hyn o bryd, ond ‘da ni heb fod yn llaesu dwylo ‘chwaith.
– ‘Da ni wedi cyflwyno perfformiad rhithiol llwyddiannus o Gair o Gariad gyda Carwyn Jones a Lleuwen Steffan.
- Drwy’n cynllun Llwyfan Dros Dro ‘da ni wedi rhoi gwaith i nifer o weithwyr llawrydd hyd yn hyn.
- Mae Cwmni 303 a’r cyfarwyddwr Iwan John, wedi bod wrthi’n gweithio ar sgript y sioe glwb newydd Dawel Nos, ac er na fyddwn, mwy na thebyg, yn medru ei theithio’r ‘Dolig yma ‘da ni’n gobeithio cynnal darlleniad agored ohoni ar wê. Bydd mwy o fanylion nes ‘mlaen.
– ‘Da ni wedi cychwyn ar y gwaith o baratoi sioe newydd sbon – sgript fydd wedi ei chyd-sgwennu gan y cast a’r dramodydd Mared Llewelyn.
- Mae’r Hen Bostar Bob Dydd wedi denu dipyn o sylw ac wedi sbarduno lot o atgofion, a felly hefyd y Trac Bob Hyn a Hyn.
- -‘Da ni hefyd ar fin/wedi cyhoeddi galwad am sgriptiau i 1 neu 2 o bobl ar gyfer awduron gaiff eu cefnogi drwy’n Cynllun Drafft 1af.
Un Nos Ola Leuad
I nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi’r llyfr eiconig byddwn yn ail-lwyfannu’r addasiad hwn yn ystod tymor y Gwanwyn. Mae’r fersiwn hon wedi ei chynnwys ar gwricwlwm CBAC.
Cast : I’w Cadarnhau
Cyfnod teithio: 1 Chwefror – 27 Mawrth 2021
Hwyl yn y Gymuned
Sioe newydd sbon fydd yn teithio i neuaddau cymunedol ledled y wlad. Y tîm creadigol fydd yn ei llunio ar y cyd – sioe ddoniol, dychanol a’n cynnwys elfennau cerddorol.
Ymarferwyr yn Cynnwys : Mared Llywelyn, Carys Gwilym, Iwan Charles, Emyr ‘Himyrs’ Roberts …
Cyfnod teithio : 1 – 26 Mehefin 2021
Byd Dan Eira gan Siôn Eirian
Drama am genedlaethau ffeministiaeth, trwy stori bersonol, sy’n ymwneud â sefydlu’r gwersyll yng Nghomin Greenham.
Cast: I’w Cadarnhau
Cyfnod teithio : 9 Tachwedd – 4 Rhagfyr 2021
Mae Bara Caws yn falch o gyhoeddi newyddion cyffrous yn hanes y cwmni, sef ein bod yn bwriadu symud i gartref newydd sbon yng nghanol pentref Penygroes, ger Caernarfon.
Sefydlwyd y Cwmni’n wreiddiol mewn cwt yng Ngholeg Normal Bangor yn 1976, cyn symud i uned ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon yn 1994. Erbyn hyn nid yw’r adeilad yn addas i bwrpas, ac er mwyn gwireddu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, rhaid sefydlu cartref newydd, ac ‘rydym wrth ein bodd i ni ddod o hyd i leoliad delfrydol, sef hen dafarn y Vic, Penygroes.
Mae hwn yn gyfle euraidd i ymgartrefu yng nghalon un o bentrefi Cymreicaf Cymru, ac edrychwn ymlaen at yr hyn allwn ni ei gyfrannu i ardal sy’n llawn bwrlwm cymunedol.
“Mae Dyffryn Nantlle 2020 wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned a phobl ifanc i hyrwyddo’r celfyddydau yn yr ardal ers 2012,” meddai Ben Gregory, Uwch Swyddog Cymuned Grŵp Cynefin. “Os mae Theatr Bara Caws yn symud i Benygroes bydd hyn yn newyddion cynhyrfus iawn i’r pentref.”
Dywedodd Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig Bara Caws, “Bydd yr adeilad newydd yn caniatáu i ni ymestyn ein darpariaeth bresennol, i weithredu’n fwy cymunedol fyth, ac yn cynnig lle i bawb o bob oed ddod at ei gilydd i rannu profiadau theatrig”.
‘Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am addo 70% o’r gost o brynu’r adeilad, ond mae gofyn i ni godi’r 30% sy’n weddill.
Felly, heddiw, Mawrth laf 2019, ‘rydym yn lansio apêl arbennig iawn, ac yn gofyn yn garedig i’n cynulleidfaoedd dros Gymru gyfan chwarae rhan yn y fenter gyffrous yma. ‘Rydym yn anelu at godi
£30,000 dros gyfnod o 8 wythnos, ac yn ymbil yn daer arnoch i gyfrannu beth bynnag allwch chi at yr achos, er mwyn sicrhau parhad i’r gwasanaeth hollbwysig ac unigryw mae Bara Caws wedi ei gynnig ledled y wlad ers dros 40 mlynedd.
‘Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd ffrindiau Bara Caws drwy Gymru gyfan yn ein helpu i gyrraedd y nod a sicrhau dyfodol diogel a llewyrchus i’r cwmni.
Ewch i – Tudalen Apêl: Cartref Newydd i Bara Caws – https:/localgiving.org/Cartref, neu os am ragor o wybodaeth cysylltwch â Mari ar 01286 675 869/mari@theatrbaracaws neu Linda ar 01286 676335/ linda@theatrbaracaws. Byddwn hefyd yn mynd â blwch pwrpasol ar ein taith nesaf, Costa Byw (Mawrth 26-Ebrill 13) i dderbyn arian neu siec.
COSTA BYW gan Mari Elen Jones, Mared Llywelyn Williams, Llyr Titus
Bara Caws, mewn cydweithrediad â Cwmni Tebot, yn cyflwyno Costa Byw – rifíw hwyliog sy’n dychmygu sut le fydd Gwynedd mewn blynyddoedd i ddod. Cewch ambell gip ar broblemau cyfoes – mewnfudo, diffyg swyddi, cost tai, gwleidyddion, newid hinsawdd, crîm egs yn mynd yn llai bob gafael, hyn oll a mwy.
Ymunwch â ni i weld be’n union ydi a be fydd costa byw ’di mynd!
Cast: Iwan Charles, Llyr Edwards
Director: Betsan Llwyd
LLEU LLAW GYFFES gan Aled Jones Williams
20 mlynedd yn union wedi Sundance, ei ddrama gyntaf i Bara Caws, ’rydym wrth ein bodd bod un o brif lenorion Cymru – sydd hefyd yn un o’n cefnogwyr mwyaf selog – wedi cyflwyno drama newydd i ni. Byddwn yn gweithio ar Lleu Llaw Gyffes ym Hydref/Tachwedd 2019. Heb os, bydd y gwaith eiconoclastig hwn am golli ffydd, chwalu mythau ac am y tynerwch dynol all oroesi yn ddeifiol a chignoeth, ac yn nhraddodiad Aled, yn ddifyr, cyffrous a heriol – garantîd!
Cast: TBA
Director: Betsan Llwyd
Roedd Trefor yn un o garedigion mawr y theatr Gymraeg, a’n ffyddlon iawn ei gefnogaeth i Bara Caws ers y dechrau’n deg. Yn ei ffordd ddihafal ei hun creodd lu o bortreadau cofiadwy ar y teledu ac ar y llwyfan.
Ddes i ar ei draws am y tro cyntaf pan fowndiodd yr Athro Drama Dros Dro i mewn i neuadd Ysgol Maes Garmon yr Wyddgrug yn gwisgo siwt wen – dramatig ta be’? Flynyddoedd wedyn cefais y fraint o rannu’r un llwyfan mewn sawl cynhyrchiad, rhai’n arbennig wedi eu serio ar fy nghof…cofio’i bortread o Gwydion yn Blodeuwedd gan Gwmni Theatrig, a llygaid mileinig a chaled y dewin yn treiddio i enaid dyn ac yn wrthbwynt llwyr i ymarweddiad ymddangosiadol soffistigedig
ei bortread o’r cymeriad aml-haenog, cymhleth hwn, a Peter Stein – y cawr o gyfarwyddwr o’r Almaen yn awyddus iddo fynd draw i weithio gyda’i gwmni ef yn Berlin…ac yna yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Tair Chwaer, ‘roedd gofyn iddo gyflwyno presant pen-blwydd i mi ac ar y noson olaf dyma’i glywed yn dweud, “Irina, mae Protopopov wedi gyrru ffesant pen-blwydd i chi”, finnau’n meddwl bod hi’n od bod Trefor o bawb wedi cam-ynganu, gan ei fod mor sicr ei stondin, tan i mi droi a’i weld yn sefyll yno gyda ffesant marw go iawn yn hongian o’i law – y darlun yn gwbl addas ar gyfer y sioe wrth gwrs, a’r gynulleidfa’n amau dim! Un castiog, llawn hwyl bob tro.
Ar hyd y blynyddoedd daeth i weithio at Bara Caws sawl tro mewn sioeau mor amrywiol â Gweledigaethau (unwaith eto mewn siwt wen!), Diana, Henwalia a’r sioe glwb Yr Alamo. Y tro dwytha welson ni o oedd ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn llynedd, ac er yn amlwg yn sâl fe ymunodd â ni i ddathlu pen-blwydd y Cwmni’n ddeugain oed, yn driw a chefnogol tan y diwedd un. Diolch Tref.

Unwaith eto ‘da ni wedi ceisio paratoi amrywiaeth o adloniant i’n cynulleidfaoedd eleni, pob un, gobeithio yn diwallu gwahanol anghenion yn ôl y gofyn. ‘Rydym yn anelu bob tro at greu celfyddyd o safon gyda’r nod o ymestyn, cyrraedd a diddanu, beth bynnag yw’r genre a phwy bynnag yw’r gynulleidfa.

Tymor y Gwanwyn 5 Mai - 2 Mehefin
Byddwn yn dechrau ein cynyrchiadau eleni drwy gyflwyno Sioe Glwb newydd sbon – Brêcshit. A’r tro hwn ‘da ni wedi gwahodd rhai o hoelion wyth y sioeau i gyd-sgwennu’r sgript, a hefyd wedi gwahodd un aelod bach newydd i gyd-weithio gyda’r llewod yn eu ffau. Manon Ellis yw’r ferch eofn honno, ac mae hi, Iwan Charles, Llyr Evans a Gwenno Ellis Hodgkins eisoes wedi bod yn sgriblo’n ddygn dan lygad barcud John Glyn Owen, fydd yn ei chyfarwyddo. 4 actor ond degau o gymeriadau – llond bol o chwerthin, tynnu coes (a blewyn o drwyn), dychan a maswedd (ma’ siŵr!).
“Mae teulu Doris Morris wedi bod yn ffarmio yn Bryn-Cwd-yr-Arian ers canrifoedd, ond yn dilyn canlyniad y bleidlais Brexit mae Doris druan wedi gorfod arall-gyfeirio. Bellach mae hi’n rhedeg clinig therapiwtig a hafan i bobl gyda bob math o broblemau. A fydd rhedeg busnes o’r fath yn cadw’r blaidd o’r drws? A fydd Doris yn llwyddo i gadw ei hetifeddiaeth? A pha mor iachus ydy ‘colonic irrigation’ i rywun mewn gwirionedd? – Cawn weld!”
( Canllaw Oed 18 + )

Tymor yr Haf Awst 3 - 11
Yna yn ystod mis Awst byddwn yn ail-godi Gair o Gariad – sioe y gwnaethom ei pherfformio’n lleol yn 2016 – ond yn sgil ei llwyddiant, ac i ymateb i’r galw, byddwn yn cyd-weithio â’r Eisteddfod ac â Chapter er mwyn ei chyflwyno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd. Wrth i chi brynu tocyn bydd cyfle i chi gyflwyno cais am gân i rywun/rhywbeth/rhywle sy’n golygu rhywbeth i chi, ac wedyn bydd y cais (dienw os ‘da chi’n dymuno) yn cael ei blethu i gorff y sioe byddwch chi’n dod i’w gweld. Dim ond ceisiadau gan bwy bynnag sydd yn bresennol yn y perfformiad hwnnw fydd yn cael eu darllen a’u chwarae, gan sicrhau fod pob un sioe yn gwbl unigryw a’n berthnasol i’r gynulleidfa honno. ‘Roedd amrywiaeth y ceisiadau’n syfrdanol, yn deimladwy, dirdynnol, doniol, haerllug i gariadon, i wŷr a gwragedd, i rieni ac i blant, ac eraill yn cynnwys brawddeg neu ddwy i anifail, neu fro, ac un neu ddau wedi cyflwyno cais iddyn nhw’u hunain! ‘Does DIM RHAID cyflwyno cais, wrth gwrs, ond ymateb y rhai ddaeth i’w gweld oedd naill ai eu bod yn difaru peidio â gwneud, neu eu bod yn difaru nad o’n nhw wedi mynd i fwy o fanylder… bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys enghreifftiau (ar ôl gofyn caniatad wrth gwrs!), ar y wefan yn ystod y misoedd nesaf. ‘Da ni wrth ein boddau bod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi ein gwahodd unwaith eto i gyfrannu at yr ŵyl, a hefyd yn falch iawn fod Chapter yn awyddus i gyd-weithio gyda ni mewn modd ychydig yn wahanol i’r arfer. ‘Da ni erioed wedi profi cynhyrchiad lle ‘roedd pawb mor awyddus i barhau â’r noson – ‘roedden nhw am aros i hel atgofion ac i rannu profiadau – mae’n wych, felly, bod Chapter yn lleoliad mor ddelfrydol i ymestyn y profiad a’r noson i’r eithaf.
“Wel, sôn am siwrne o brofiadau, o chwerthin afreolus ac o embaras pur, i atgyfodi hen atgofion hir-golledig…Gadawodd pawb â llygaid sgleiniog a gwên lydan yr un…”
(Lowri Haf Cooke)
Un nodyn bach – dim ond 40 tocyn sydd i’w cael ar gyfer pob perfformiad felly archebwch eich lle cyn gynted ag y bydd y tocynnau ar werth!

Tymor yr Hydref Hydref 9 - 27
Wedyn, yn yr hydref, byddwn yn cyflwyno Dwyn i Gof gan un o ddramodwyr cyfoes pwysicaf Cymru, y diweddar Meic Povey. ‘Roedd Meic wedi gyrru’r ddrama atom llynedd, ac ‘ro’n i wrthi’n dechrau rhyw gyfathrebu ynglŷn â hi pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. ‘Ro’n i mewn cyfyng-gyngor. ‘Roedd wedi gyrru gair ataf dro yn ôl yn dweud ei fod yn awyddus i leihau rhywfaint ar ei waith ‘sgwennu, a hynny yn enwedig ar gyfer y teledu, ond, yn ei eiriau ef “… ma theatr yn deciall arall o bysgod…”. Gan nad yw’r cyfle’n bodoli bellach i’w gwestiynu ac i sgwrsio a thrafod – sef un o’r pethau dwi’n eu trysori pan yn cyd-weithio ag awdur – a ddylsem ei chyflwyno ai pheidio? Yna deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin ei ferch, ac yn ei ffordd ddihafal ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r gwaith asap – a fel ddeudodd Catrin – “Pwy yda ni i ignorio hynny?”. Mae Dwyn i Gof yn ddrama heriol, llawn hiwmor tywyll am golli’r cof, am etifeddiaeth ac am ddatgelu cyfrinachau. Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio, ond bydd hi – fel bob tro – yn fraint.

Ymchwil a Datblygu
Mewn partneriaeth â Dawns i Bawb ‘da ni newydd gwblhau cyfnod byr o Ymchwil a Datblygu ar lyfr Angharad Tomos, Wrth fy Nagrau I. Mae’r ddelwedd ganolog yn un drawiadol – cleifion mewn ward sy’n ymdrin â salwch meddwl, a’r cleifion? – merched o’r traddodiad llenyddol Cymraeg sydd wedi dioddef trawma o rhyw fath. O Heledd i Monica, o Gwladys Rhys i Mrs Prichard. Mae’r prif bwnc yn un sydd angen ei wyntyllu, ond mae’r chwyddwydr hefyd yn dangos diffygion y system pan nad oes iaith gyffredin gan y cleifion a’r meddygon.
Nid yw’r celfyddydau’n faes sy’n aros yn ei unfan, a rhaid gweithio’n gyson i gynnig sialensiau newydd i ymarferwyr creadigol a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, felly ‘roeddem yn awyddus i archwilio pryd nad yw geiriau’n ddigon i gyfleu emosiwn, pryd mae’r corfforol yn goresgyn y geiriol. Fel cwmni ‘da ni’n gosod pwyslais ar ymestyn sgiliau ymarferwyr, ac wrth roi cyfle i actorion, sydd fel arfer yn gweithio â thestun geiriol yn unig, arbrofi â theatr fwy corfforol, mae eu hymarfer creadigol yn datblygu, ac mae buddsoddi mewn ymarferwyr yn hollbwysig ar gyfer parhad y diwydiant yng Nghymru.
Yn sgil y pythefnos mae Catherine (DiB), finnau a Carys, Gwen a Mari (y 3 actores gymerodd ran yn y gweithdy) yn hyderus ein bod wedi darganfod cychwyn proses i wireddu’r weledigaeth sydd gennym, ac yn bwriadu ymchwilio ymhellach i’r prosiect yn ystod y misoedd nesaf. ‘Da ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Angharad ei hun yn cyd-weithio â ni ar addasu ei llyfr yn sgript ar gyfer y llwyfan.

Cyd-weithio â Urdd Gobaith Cymru
Ers i ni ennill y tendr ar gyfer cyd-weithio ar gynhyrchiad newydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, mae’r gwaith ‘sgwennu eisoes wedi cychwyn. Nod y cynllun yw meithrin tîm o bobl ifanc talentog fydd wedyn yn gyfrifol am y prosiect drwyddo draw, dan arweiniad Tîm Rheoli Bara Caws ac ymarferwyr profiadol eraill e.e Dyfan Jones a Catherine Young. Mae 3 awdures ifanc o Wynedd wedi eu gwahodd i gyd-sgriptio, sef Elan Grug Muse, Sara Annest a Mared Llywelyn Williams – dan arweiniad y Dr Manon Wyn Williams. Mae Meilir Rhys Williams wedi ei wahodd i gyfarwyddo, Ifan Tswmani i arwain ar yr elfennau cerddorol, Cêt Haf fel Coreograffydd, Erin Madox yn Cynllunio Set a Gwisgoedd. Byddwn wedyn yn cynnal clyweliadau ar gyfer y cast, cerddorion, y rhai sydd â diddordeb mewn cynllunio, marchnata, cyhoeddusrwydd ayb, yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Cynllun Drafft 1
Mae croeso i unrhyw un gysylltu â Bara Caws os am ‘sgwennu i’r Cwmni. Ers blynyddoedd maith bellach mae’r Cwmni’n gweithredu Cynllun Drafft 1af wrth fynd ati i archwilio ac i gomisiynu gwaith newydd. Mae’r cynllun wedi esgor ar ddramâu mor amrywiol â Garw, Hogia Ni-Yma o Hyd, Allan o Diwn, No Wê, Raslas Bach a Mawr! ac Yfory.
Mantais y system i awdur yw ei fod yn cynnig cefnogaeth ariannol a phroffesiynol i unigolion, ac yn gwneud hynny mewn awyrgylch cefnogol dibwysau, gyda dadansoddiad a chyngor profiadol yn rhan annatod o’r cynllun. Mae’n broses adeiladol hyd yn oed os nad yw’r canlyniad bob tro yn arwain at gynhyrchiad llawn.
Mantais artistig y system i’r Cwmni yw ei fod yn anelu at sicrhau gweithiau safonol, perthnasol fydd yn eistedd yn daclus yn y rhaglen waith.
Mantais ariannol y system i’r Cwmni yw ei fod yn anelu at sicrhau fod y coffrau sydd gan y Cwmni ar gyfer awduron/gwaith ysgrifenedig newydd yn cael ei wario a’i fonitro’n ofalus.
Cartref Newydd
‘Rydym hefyd yn parhau â’r gwaith o sicrhau gweithle newydd i’r Cwmni – sy’n flaenoriaeth dros y misoedd nesaf. Byddai sicrhau adeilad sy’n fwy addas i bwrpas yn ein galluogi i osod y Cwmni ar seiliau cadarnach ar gyfer y dyfodol (yn ffigurol ac yn llythrennol!), ac yn ein galluogi i ddatblygu’r gofod creadigol i’r eithaf, gan feithrin, datblygu a chefnogi pob math o bartneriaethau a chysylltiadau cyffrous. Nid yw’r hinsawdd economaidd yn ffafriol wrth gwrs, ond ‘da ni’n gwerthfawrogi’r holl ewyllys da, y cymorth ac awydd pawb i’n cynorthwyo yn fawr iawn. Falle byddwn yn dod ar eich gofyn eto cyn hir…
“Cyfaill, cymwynaswr, talent, gwrandäwr, arsyllwr…sut mae disgrifio Meic? Bu’n gefnogwr brwd o Bara Caws ers y cychwyn, ac mae ei waddol i’r theatr a’r cyfryngau yng Nghymru yn amhrisiadwy. O’m rhan i cefais gyfle i weithio ag ef fel cyd-actor; cyfle i bortreadu rhai o’i gymeriadau mwyaf cofiadwy; ac yn fwyaf diweddar y pleser o esgor ar berthynas newydd efo fo fel cyfarwyddwr o’i waith. ‘Roedd ei ddisgyblaeth, ei graffter, ei ddiddordeb, ei chwilfrydedd, ei hoffter o’i gymeriadau, ac o drafod a sgwrsio, a rhoi’r byd yn ei le mewn modd dwys a’r modd mwyaf pryfoclyd heb ei ail. ‘Roedd wedi gyrru drama newydd sbon at Bara Caws ddechrau eleni, a ‘roedden ni wrthi’n trio trefnu cyfarfod i drafod y gwaith ymhellach pan gafodd ei daro’n ddifrifol wael. Deuddydd wedi iddo farw cefais gerdyn ganddo, drwy law Catrin, ac yn ei ffordd ddihafal ei hun yn fy herio i ymgymryd â’r gwaith asap – a fel ddeudodd Catrin – “Pwy yda ni i ignorio hynny?”… Felly bydd hi’n bleser cael llwyfannu Dwyn i Gof y flwyddyn nesaf ‘ma. Fyddai’n colli’r cyfle i drafod, i ddadlau ac i herio ar y daith hon, ond diolch – unwaith eto – am y fraint.”
Betsan Llwyd
“Mi oedd ‘na ugain mlynedd yn mynd i basio fel y gwynt rhwng i mi rannu set hwyliog ‘Y Dyn na’th ddwyn y Nadolig’ hefo Mordecai ac eistedd i drafod sioe glybia’ oedd Meic yn awyddus ei hysgrifennu i Bara Caws yn 2004 ym mar y Prince of Wales yng Nghriccieth. Nid y Windsor clustiog ond tywysog arall oedd ganddo mewn golwg fel testun y sioe – Owain Min Dŵr – a thrafferthion dychmygol, cymdeithasol a chorfforol di-chwaeth, arwr ein cenedl oedd ei fyrdwn. Cyn fy nghyfnod i yn Bara Caws mi oedd Meic wedi ysgrifennu sawl sioe bwysig i’r cwmni ond bellach ‘roedd o’n awyddus i fentro i gors y Sioe glybiau. Fel y Mordecai gynt mi oedd Meic yn gwybod yn union be oedd o isio, a be oedd Meic isio yn ei sioe glybiau oedd rhegi – lot o regi. Chwe mis yn ddiweddarach mi oedd Crach Ffinant yn dod yn ei flaen i agor y sioe gyda’r lein :
‘Dw i’n gwbod be’ ‘dach chi’n feddwl..! Sioe glybia’ arall yn llawn o jocs gwael a rhegfeydd aflan, yn son am ddim ond am wastraff naturiol a dirgelwch merchaid! Wel – dim ff** o beryg ylwch!
Yn stod y chwe mis arweiniodd i’r lein ‘fythgofiadwy’ yna mi oeddem wedi cael oriau o gysur a Meic wedi profi i ni mai nid y rhegi oedd yn bwysig iddo o gwbwl. Un modd o fynegiant oedd hwnnw ac un oedd yn orchudd garw tros eiconoclastiaeth clyfar a chenedlgarwch, dros gariad at y dweud a’r cymeriadu. Tu ôl i’r maswedd bras ‘roedd ‘na feddwl ac ystyr a gofal. Fel yn y gwaith felly yn y dyn, tu ôl i’r hyder mawr a’r chwerthiniad heintus ‘roedd ‘na ddwysder a chanol moesol a’r dewrder i’w fynegu. Mae ei gyfraniad i fyd y ddrama yng Nghymru yn ddifesur a’n dyled iddo fel cwmni yn fawr. Dwi’n falch o fod wedi cael ei nabod ac ydw i’n mynd i anghofio cael y fraint o gydweithio gyda Meic ? Wel – dim ff** o beryg ylwch!”
Tony Llewelyn
“Tua troad y ganrif roedda ni’n dau fwy neu lai ‘dan glo’ am rai wythnosa’ mewn stafell yng Nghanolfan y Chapter, Caerdydd, yn trio llunio cyfres deledu. Dyna pryd y dois i i’w adnabod o’n iawn a doedd hynny ddim yn anodd oherwydd roedd ‘na sawl peth yn gyffredin rhyngddom gan ein bod ill dau o’r un math o gefndir gwledig digon llwm a’r ffaith ein bod wedi gadael yr ysgol yn llafna’ pymtheg oed.
Er bod yr amgylchiada’n ddyrys a’r pwysa’n o drwm ar ein sgwydda roedd hi’n bleser, ac yn fraint hefyd, cael cydweithio efo fo. Roedd o bob amsar mewn hwylia da, byth yn oriog, a fuo ‘na run gair croes rhyngddo ni yn ystod y cyfnod. Y boddhad mwya heb os oedd cael gwrando arno fo’n deud sdraeon a’i wylio’n mynd trwy ei betha. Roedd ‘na ryw ffenast fach gron yn nrws y stafell a bob yn hyn a hyn mi fydda fo’n neidio’n sydyn o’i gadair cyn llamu at y drws, gosod ei drwyn ar y gwydr, a gweiddi: “They’re all cunts out there!” ar dop ei lais. ‘Wn i ddim o ble y deuai’r chwiw ond roedd o’n berfformiad arbennig. I mi, fo oedd y William Goldman Cymraeg. Roedd ganddo storfa helaeth o straeon a sgandals wedi eu hel yn ystod gyrfa hir ac amrywiol ym myd ffilm, theatr a theledu ac roedda nhw’n werth eu clywed. Dwi’n cofio ei siarsio ryw dro i’w rhoi nhw i lawr ar gof a chadw, wn i ddim os y gwnaeth o a’i peidio.
Coffa da am ddyn a oedd yn fodlon ‘dod i’r adwy’ ac am gwmnïwr ffraeth a gipwyd gan y Cychwr ar ddiwrnod fy mhenblwydd.”
Twm Miall
“Y cardyn ‘Dolig cynta’ ar y mat bob blwyddyn, ac arno un enw ac un brif-lythyren…’Povey, X.’ A phob blwyddyn mi oedd ei lawsgrifen yn codi gwên a chynhesrwydd-tu-mewn am atgofion hynod hapus yn ei gwmni. Chwerthwr swnllyd, yn enwedig ar ben ei jôcs ei hun! Dwi’n cofio bod yn barod i fynd ar y llwyfan i neud perfformiad o ‘Wal’ [Aled Jones Williams] yn Neuadd Llanofer flynyddoedd yn ôl, dim ond rhyw ddau neu dri yn y gynulleidfa, a chlywed llais Povey yn cerdded i mewn drw’r neuadd wag, ista i lawr, a gweiddi ar Ber neu Ems yn y cefn – “Dwi’m yn cymyd sêt neb yn fama na’dw?!” cyn i’w chwerthiniad harti adleisio dros y lle a chodi’r wên arferol ar wynebau Maldwyn a finnau, gefn llwyfan.
Pobol oedd petha’ Povey. Oedd, mi oedd o’n Debyg Iawn i Ti a Fi – a dyna pam yr oedd ei gymeriadau fo yn ymddwyn ac yn swnio mor gredadwy ar y dudalen – ond, oherwydd ei ddawn a’i ddisgyblaeth di-flino, mi oedd o’n wahanol iawn i bob un ohona ni. Yn ôl Meic, yr hyn oedd yn brawf ac yn fesur o lwyddiant awdur oedd ei ‘body of work,’ a phrin y gall neb ddod yn agos at nifer, na dylanwad, campweithiau Povey dros y deugain mlynedd dwaetha’. Be’ ddysgish i gynno fo? Bod gwaith caled a thrylwyr yn gallu bod yn lwmp o hwyl. Fel ffigwr cyhoeddus, ac yn sgîl ei waddol fel sgwennwr, ma’ Cymru wedi colli cawr. Mae’r golled i’r teulu, wrth gwrs, yn mynd i fod yn un llawer iawn mwy poenus. Mae ein cydymdeimlad a’n cofion cynhesaf ni i gyd yn estyn atyn nhw rwan. Diolch am gael rhannu dipyn o’r egni a’r tân. Ffrind ac arwr yn un!
O hyn ymlaen, yn ‘y nghalon i fydd ‘Povey. X’, dim ar y mat. Diolch mêt. Merf. X.”
Merfyn Pierce Jones
“Anodd meddwl na welwn ni byth o Meic eto – mor annheg ei fod wedi gorfod ein gadael mor fuan. ‘Roedd yn ffrind annwyl a charedig a phob amser yn llawn hwyl – dwi’n gweld ei wên ddireidus pan dwi’n meddwl amdano. ‘Roedd yn un o’n dramodwyr gorau ni yng Ngymru ac mor ddisgybledig wrth ei waith. Mae’r ffilm â ysgrifennodd rhai blynyddoedd yn ôl – ‘Nel’ gyda Beryl Williams yn y prif ran – yn aros yn y cof, a’i ddrama ‘Diwedd y Byd’ yn fy nhyb i yn gampwaith. Mi fydd colled a bwlch enfawr ar ei ôl – mae ei gyfraniad i fyd y theatr a theledu wedi bod yn amhrisiadwy. Cwsg yn dawel Meic – mi oedda ti’n spesial. Fy nghydymdeimlad dwysaf a’r teulu i gyd.”
Linda Brown


“Teg dweud, dybiwn ni, heb Iola fyddai Bara Caws ddim yn bod, a heb Bara Caws byddai tirwedd y theatr yng Nghymru wedi datblygu’n un tra gwahanol.
Bu i rai o aelodau presennol y Cwmni gyd-weithio â hi am flynyddoedd, ar gynyrchiadau cofiadwy fel Bargen a Bynsan Binc, ond o’m rhan i, gweld y criw gwreiddiol yn cyflwyno Hwyliau’n Codi yn Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth ddiwedd y 1970au agorodd fy llygaid i bosibiliadau gwirioneddol gyffrous theatr Gymraeg, a pherfformiad Iola wedi serio ar fy nghof.
Bu’n gefnogol i waith y Cwmni dros y degawdau, a’r galon yn curo’n gyflymach bob tro y byddai yn y gynulleidfa – yn feirniad craff, gonest, gwrthrychol a deallus. Y tro diwethaf i mi gael sgwrs iawn hefo hi oedd yn Pontio yn gynharach eleni, hithau’n fy holi’n dwll a’n gwrando’n astud wrth i ni drafod rhai o ddyheadau Bara Caws ar gyfer y blynyddoedd nesaf, a’r ‘pam’ a’r ‘sut’ yn greiddiol i’w meddylfryd am y theatr yng Nghymru yn gyffredinol.
Diolch am dy weledigaeth, dy ysbrydoliaeth a dy gefnogaeth bob tro.”
Betsan Llwyd
“Rebel oedd Iola. Dynes oedd yn malio, yn enwedig am y Gymraeg, y theatr a gwleidyddiaeth ac efo’i meddwl praff a’i hiwmor unigryw, yn ei helfen yn sbarduno trafodaeth.
Aeth i garchar am weithredu dros ail iaith a fabwysiadodd yn angerddol a bu’n un o sylfaenwyr cwmni theatr arloesol Bara Caws oedd â’r dyhead i newid pethau yng Nghymru. Cynigiwyd arlwy gyffrous oedd yn herio’r drefn gan wneud y theatr Gymraeg yn fwy perthnasol i fywydau pobol yng Ngwynedd a thu hwnt, ac yn galon i hyn oll oedd perfformiadau syfrdanol Iola a’i dyfeisgarwch fel awdur a chyfarwyddwraig. Trafod syniadau oedd ei phethau, wastad efo rhywbeth annisgwyl i’w daflu i mewn i’r pair i herio a chreu deialog allai ddatblygu’n ddadl danbaid ar adegau ond yn egni cadarnhaol difyr bob amser. Gyda’i meddwl treiddgar dadansoddol, roedd yn cwestiynu popeth i geisio deall cymlethdodau dyrys a doniol ein hoes fel y gallai uniaethu efo a chefnogi pobol oedd â safbwyntiau mor wahanol. Diolch am fod yn gyfaill ddi-hafal, yn ysbrydoliaeth ac yn hwyl – bu’n fraint! Fydd y byd na Chymru fyth r’un fath heb rebel a gyfoethogodd cymaint o fywydau. Diolch Iola.”
Sioned Huws
“Gweld Iola gyntaf pan o’n i’n fyfyriwr yn Aberystwyth yn y chwedegau. Dyna lle ‘roedd hi’n sefyll y tu allan i gynhadledd flynyddol Cymdeithas yr Iaith yn Neuadd Talybont, yn dosbarthu taflenni, yn ei chrys-T gwyn a thafod y ddraig goch arno. ‘Roedd hi’n hyderus, herfeiddiol…a hardd! Geneth efo tân yn ei chalon – fel ei mam, yr ymgyrchwraig danllyd dros yr iaith, Mrs. Millicent Gregory.
Ychydig flynyddoedd wedyn, a hithau bellach yn dechrau gwneud gyrfa actio iddi hi ei hun, dyma ddod ar ei thraws yn y Gogledd – ac nid Gogledd Cymru chwaith. ‘Roedd Val a Sharon, Gwyn Parry, Grey a minnau wrthi’n creu sioe newydd efo Theatr Antur, adran o Gwmni Theatr Cymru. Ar yr un pryd ‘roedd cynhyrchiad arall yn digwydd yn y Cwmni sef IFAS Y TRYC, gyda Stewart Jones, a phwy oedd yn actio artist a merch secsi yn hwnnw ond Iola! Cofio’r ddau gynhyrchiad yn ymarfer efo’i gilydd yn York o bob man – am y rheswm fod cynhyrchiad arall (eto fyth) Wilbert Lloyd Roberts, UNDER MILK WOOD, yn chwarae yn yr Yorkshire Playhouse, a chan fod rhai actorion yn chwarae rhannau mewn mwy nag un cynhyrchiad, ‘roedd pawb yn aros am wythnos mewn gwesty efo’n gilydd yn yr Hen Ogledd. ‘Roedd fel petai’r theatr Gymraeg i gyd wedi symud, bag and bagej, i Iorc! Sôn am hwyl…
Buan y daeth Iola ei hun yn rhan o griw theatrig y Gogledd, ac yn arbennig, y Theatr Antur dan Gwmni Theatr Cymru, gyda’r sioe CYMERWCH BWYTEWCH. ‘Roedd hyn yn arwyddocaol, achos allan o’r grŵp hwn y daeth gwreiddyn y syniad a’r personoliaethau fu’n gyfrifol am Theatr Bara Caws ei hun. Yn 1977 y bu hynny, wrth i Iola, Val, Sharon, Catrin a minnau ddod at ein gilydd i drafod y posibilrwydd o sefydlu cwmni theatr gymuned annibynnol, Theatr Bara Caws, fyddai’n herio’r sefydliad theatrig ar y pryd. Ac ‘roedd angen ei herio hefyd. Ar y cyfan ‘roedd y cynyrchiadau wedi mynd yn stêl a saff, ac yn amherthnasol i lawer o’r gynnulleidfa. Wrth gwrs, un peth oedd hefru a dadlau am y sefyllfa yn y Glôb ar nos Wener, peth arall oedd GWNEUD rhywbeth ynglŷn â fo. Ond, damia, ‘roeddan ni wedi gaddo sioe i Wil Morgan yn Theatr Clwyd yn ystod Eisteddfod Wrecsam, a rŵan ‘roedd rhaid i ni ‘sgwennu’r blydi peth…
Yn hen ysgol St. Paul’s, Bangor, dyna lle’r oeddem ni’r criw bach – ddaeth cyn hir yn griw mwy gyda Mari Gwilym, Dyfed Tomos, Bethan Meils, Dafydd Pierce, a’r hen Stewart Jones ei hun – yn yfed te a sbïo ar ein gilydd. ‘Roedd pwnc y sioe yn amlwg. ‘Doedd y peth yn cael ei flastio aton ni bob dydd a nos drwy’r wasg a’r cyfryngau – Jiwbilî’r Cwîn. “ God Save the Queen”, canai’r Sex Pistols. Ond pwy oedd yn mynd i chwarae rhan allweddol y Cwîn? Trodd pob llygaid at yr un fwyaf urddasol, cefnsyth ac ymddangosiadol aristocrataidd ohonom i gyd…Iola! A dyna fu. ‘Roedd yr olygfa lle’r oedd Ecweri amlieithog camdreigliedig Dyfed yn rhoi “build-up” anhygoel iddi gyda’r geiriau, “Mae’r Gwîn yn doooood!”, a hithau Iola yn camu yn araf ac awdurdodol ar y llwyfan, a rhyw edrychiad hir a sur ar y gynulleidfa, cyn eistedd i lawr yn ddelicet ar y pan toilet gyda ffwr gwyn brenhinol i gyfeiliant y geiriau gorseddol, “ Eistedded y Gwîn yn hedd y Cantîn”… ‘roedd yr olygfa honno bob amser yn tynnu’r lle i lawr. Mae rhai’n dal i’w chofio fel tase hi’n ddoe…
Aeth Iola yn ei blaen i wneud cyfraniad anhygoel i Bara Caws yn ei flynyddoedd cynnar. Ei gallu arbennig i greu cymeriad cryf a chredadwy ar lwyfan – o’r Wrach Haearn (fersiwn bara-cawsaidd o Mrs. Thatcher) i’r ddynes Fethodistaidd mewn storm ar y llong i America oedd yn dechrau amau ei ffydd yn HWYLIAU’N CODI. Yn yr un cynhyrchiad, Iola oedd y symbol Victoraidd Brittania, ond hefyd chwaraeai wraig morwr a fu farw ar y môr, a’r wraig druan, tra’n derbyn y newydd erchyll, yn gorfod dygymod efo’i mam ffwndrus siaradus. Golygfa ddirdynnol, ddoniol/drist wedi ei ‘sgwennu a’i hactio’n gampus gan ein dwy brif actores, Iola a Val, yn un o gynyrchiadau gorau blynyddoedd cynnar Bara Caws yn fy marn i.
A rŵan bod ein brenhines – a’n gwerinwraig herfeiddiol, Gymreig, dalentog, hwyliog, hael ac annwyl wedi mynd…cofiwn drwy’n dagrau am ei gwaddol amhrisiadwy i’r theatr ac i Gymru.”
Dyfan Roberts
“Mi gefais i’r fraint o gyd-actio efo Iola ar sawl achlysur, boed ar lwyfan neu deledu, a phob tro, mi fyddwn yn rhyfeddu at ei dawn aruthrol. Serch hynny, yr hyn a erys bennaf yn y cof amdani oedd y wên lydan ar ei hwyneb siriol, ac yna’r chwerthiniad direidus a hynod heintus hwnnw.”
Mei Jones
“Un o hoelion wyth y Theatr yng Nghymru oedd Iola. Roedd ei chyfraniad yn amhrisiadwy i’r broses o osod y sylfaen i’r grefft a’r twf a fu yn hanes y theatr Gymreig ers y saithdegau. Yn Gymraes i’r carn ac yn lladmerydd dros gyfiawnder a chydraddoldeb mewn sawl maes ac achos. Bu’n selog i’r theatr hyd y diwedd gan fynychu a chefnogi cynyrchiadau hyd yn oed pan nad oedd yn ddigon cryf i deithio ei hun. Fe wyddai pawb ohonom os oedd Iola wedi ei phlesio ein bod wedi gwneud joban go lew ohoni. Diolch am dy holl gefnogaeth Iola . . . a ‘Nos Da Nawr’ . . . “
Cefin Roberts
“Mae dros ddeugain mlynedd ers i Iola a finne dreulio prynhawn gyda’n gilydd un Chwefror diflas yn y Ceffyl Du, Caerfyrddin. ‘Roeddem wedi gorfod canslo’r perfformiad nos o ddrama ar daith oherwydd diffyg cynulleidfa. Ond dros beint soniodd Iola am gynlluniau cyffrous criw o actorion i gychwyn cwmni theatr newydd sbon, arloesol a pherthnasol… ac er mawr syndod fe ofynnodd i minnau os hoffwn i fod yn rhan o’r fenter. “Wrth gwrs Iola…” – a dyna gychwyn ar antur anhygoel Bara Caws… a pharhau’r antur fythgofiadwy o gyfeillgarwch agos a barodd oes. Gweld d’eisiau di Iola. Mae’n chwith iawn ar dy ôl.”
Catrin Edwards
“Iola … ‘roedd hi’n berson arbennig iawn, a bob tro dwi’n meddwl amdani dwi wastad yn gweld ei gwên ddireidus. Mae gen i atgofion melys iawn o’r cyfnod pryd nes i ddod i adnabod Iola, Val, Dyfan, Catrin, a Mei am y tro cyntaf. Mi oeddwn i wedi gweithio gyda’r criw yn rhinwedd fy swydd gyda Chwmni Theatr Cymru cyn iddynt sefydlu Bara Caws, a chyn i mi gychwyn gweithio gyda’r cwmni yn yr wythdegau. ‘Roedd hi’n bleser a hwyl sgwrsio gyda hi bob amser, ac ‘roeddwn i’n edmygu ei daliadau cryf a byddai bob amser yn dweud beth oedd ar ei meddwl yn hollol blaen. Gawso’ ni lot o hwyl yn magu ein plant a chael rhyw ‘days-out’ bach joli i lan y môr a ballu – dyddiau difyr. Fydda ‘na hefyd groeso mawr i ni bob amser yn Llandwrog. ‘Roedd hi’n berson dawnus dros ben a ‘roeddwn i wrth fy modd yn ei gweld ar y llwyfan – mi wnaeth hi argraff mawr arnai yn y sioeau Merched yn Bennaf ac yn O Syr Mynte Hi. Braf oedd cael cydweithio gyda hi hefyd flynyddoedd yn ddiweddarach pan ddaeth yn ôl i Bara Caws i gyfarwyddo Paris.
Mi fydd chwith mawr ar dy ôl Iola – diolch am y fraint o gael dy adnabod a chael gymaint o hwyl yn dy gwmni – cwsg yn dawel. Ein cydymdeimlad dwys ag Angharad a Rhian a’u teuluoedd.”
Linda Brown


Bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn cynnal prosiect Ymchwil & Datblygu am bythefnos ar lyfr Angharad Tomos, Wrth fy Nagrau I, rhwng y 4ydd a’r 16eg o Ragfyr eleni. Continue Reading…
‘Roedd lot o hwyl yma ddydd Gwener diwethaf wrth i griw ddod at ei gilydd i ddechrau trafod syniadau ar gyfer y sioe glwb nesaf. Continue Reading…
Wrth i Theatr Bara Caws ddathlu’I ben-blwydd yn ddeugain oed eleni, y cynhyrchiad olaf i nodi’r dathlu yw Dim Byd Ynni gan Emlyn Gomer a fydd yn agor yn Eisteddfod Genedlaethol Môn fis Awst. Bydd pedwar perfformiad o’r ffars newydd hon yn yr Eisteddfod cyn iddi deithio ym Medi a Hydref eleni. Continue Reading…
Y digwyddiad sy’n coroni’r dathlu yw’r Te Parti Pen-blwydd yn Eisteddfod Genedlaethol Môn eleni. Mae 40 mlynedd wedi mynd heibio ers i griw bychan, brwd o ymarferwyr ddod at ei gilydd a rhoi ’sgytwad iawn i fyd y theatr yng Nghymru. Ac mae Gwasg Carreg Gwalch am lansio llyfr mawr llawn atgofion lliwgar i nodi’r achlysur. Felly dewch i ymuno yn yr hwyl yng nghwmni cyfeillion hen a newydd. Continue Reading…
Mae Mari Emlyn bellach wedi dychwelyd i’w swydd ar ôl ei chyfnod mamolaeth – llongyfarchiadau gwresog iddi hi a’r teulu bach ar enedigaeth Ela Emlyn. Continue Reading…