Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws Theatr Bara Caws
  • Hafan
  • Sioeau
    • Cariad yn Oes y Gin
    • Un Nos Ola Leuad
    • Lleisiau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English
  • Hafan
  • Sioeau
    • Cariad yn Oes y Gin
    • Un Nos Ola Leuad
    • Lleisiau
    • Draenen Ddu
  • Amdanom Ni
    • Y Cwmni
    • Y Tîm Rheoli
    • Nawdd
    • Dathlu 40
    • Archif
  • Newyddion
  • Cymraeg
  • English

Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid

April 4, 2022

Teitl y Swydd:  Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid

Graddfa Cyflog:  £26,000.00 – £35,060.00 (yn ddibynnol ar brofiad)

Lleoliad: Caernarfon neu leoliadau eraill yn unol â gofynion busnes, (gweithio o adre yn ôl yr angen).

Oriau Gwaith: 38 awr yr wythnos

Mae Cwmni Theatr Bara Caws wedi bod yn cyflwyno cynyrchiadau Cymraeg o bob math yng nghalon cymunedau Cymru ers dros 40 mlynedd. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am aelod newydd i ymuno â’r Tîm Rheoli fel Swyddog Gweinyddiaeth a Chyllid. Dyma gyfle gwych (a phrin!) i’r ymgeisydd llwyddiannus chwarae rhan yng ngham nesaf cyffrous y Cwmni unigryw yma. Edrychwn ymlaen at ail-gychwyn teithio, at gwrdd â’n cynulleidfaoedd niferus wyneb yn wyneb unwaith eto, ac at symud i gartref newydd sbon! 

Tyrd efo ni ar y daith.

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth gweinyddol a chyllid i’r Cwmni. Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol, sydd â diddordeb mewn theatr gymunedol.

Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y swydd cyn gynted â phosib. 

Mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.

Am swydd-ddisgrifiad fanwl a rhagor o wybodaeth cysylltwch â Mari Emlyn:

mari@theatrbaracaws.com neu cysylltwch ar 07880 031 302 

I wneud cais anfonwch eich CV a llythyr yn nodi sut yr ydych yn gymwys i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd at mari@theatrbaracaws.com

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 22 Ebrill 2022.

Posted in: Newyddion Author: cawsGalactig

Tweets

  • Diwrnod cyntaf ymarferion 𝓒𝓪𝓻𝓲𝓪𝓭 𝔂𝓷 𝓞𝓮𝓼 𝔂 𝓖𝓲𝓷 👌🏻@ctomharris @MariMathias14 @Maritbc @betsantbc @SionEmyr… https://t.co/tL83VAKiAA12:26 PM Jan 30
  • https://t.co/gHeH1GP9vp05:02 AM Jan 30
  • Rheolwr Llwyfan https://t.co/Am8Ih7r1l107:07 AM Jan 11

Cysylltu

Enw (gofynnol)

Ebost (gofynnol)

Neges


theatr bara caws
uned A1
ystad ddiwydiannol cibyn
caernarfon
gwynedd LL55 2BD
Ff: 01286 676 335
Ff: 01286 675 869

© Bara Caws 2022 Rhif Cwmni | Company No : 0330 1990 Rhif Elusen | Charity No: 1062896