Ffenast Siop

August 22, 2023 / no comments

Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym

“Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”

Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y menopos. 

Chwerthin, harthio, edliw a cholli deigryn – mi gewch chi’r cyfan.

Ymunwch â ni ar y daith arbennig hon, ac mae croeso i bawb, achos nid mater i ferched yn unig ydi’r menopos.

Bydd cyfle euraidd i’r rheini ohonoch sydd yn dymuno gwneud hynny, leisio eich profiadau peri-menoposal, menoposal ac o fod yn ferch mewn sgwrs hwyliog gyda Iola Ynyr a Carys Gwilym wedi ambell berfformiad. Bydd hon yn sgwrs gynhwysol anffurfiol lle cewchgyfle i ymlacio a theimlo’n rhydd i ddweud eich dweud mewn gofod diogel.

Meddai Iola: “Da ni’n dwy wedi dysgu bod chwerthin yn ffordd o lacio’r poen a’r ofn. Dyma gewch chi yn y sioe ac yn y sgwrs gobeithio!”

Ac i goroni’r cyfan bydd Mirsi hefyd yn ymuno â ni mewn sawl lleoliad ar hyd y daith i gynnal siop ‘pop up’ – felly dyma gyfle gwych i chi gael noson allan o chwerthin ymysg ffrindiau, i rannu profiadau ac i wneud mymryn o siopa. Beth allai fod yn well?

Canllaw oed 14+.

𝐂𝐚𝐬𝐭 – Carys Gwilym

𝐂𝐲𝐟𝐚𝐫𝐰𝐲𝐝𝐝𝐨 – Iola Ynyr

𝐂𝐞𝐫𝐝𝐝𝐨𝐫 – Osian Gwynedd

𝐓𝐞𝐜𝐡𝐧𝐞𝐠𝐲𝐝𝐝 – Llywelyn Roberts

𝐂𝐲𝐧𝐥𝐥𝐮𝐧𝐲𝐝𝐝 – Lois Prys

Cynhyrchiad Theatr Bara Caws mewn cyd-weithrediad â Galeri, Caernarfon.

Dinas

May 3, 2023 / no comments

DINAS

Mae Bara Caws wrth ein boddau’n cael cyfle i ail-godi’r llen ar gomedi glasurol a gyd-sgwennwyd gan ddau o fawrion ein llên – yr arobryn Emyr Humphreys a’r unigryw WS (Wil Sam) Jones.

Mae tynged Dinas yn y fantol. Dibynna’r perchennog, John Barig, yn llwyr ar ffyddlondeb Ossie ei was, ond mae’r cartref yn prysur ddadfeilio, a daw’n amlwg fod gan bawb sy’n troi o’u cwmpas ddiddordeb dwfn yn nhynged yr hen le – at eu dibenion eu hunain wrth gwrs…

Yn ôl yr awduron: Ein nod fel arfer yw difyrru: ond os ceir ambell ergyd yma ac acw gorau oll.” – ac er i’r ddrama cael ei ‘sgwennu ym 1970 mae’r ‘ergydion’ mor berthnasol ag erioed.

Dyma gyfle euraidd i weld rhai o dalentau comedi gorau Cymru ar lwyfan gyda’i gilydd – a hynny am wythnos yn unig yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd – felly archebwch eich tocynnau yn syth bin!

Cast: Iwan Charles, Richard Elfyn, Carys Gwilym, Dyfan Roberts, Mari Wyn, Rhodri Trefor, Llion Williams

Cyfarwyddo: Betsan Llwyd

Yn ystod EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLŶN AC EIFIONYDD
yn NEUADD DWYFOR, PWLLHELI
AWST 7FED – 11EG, 7:30

Tocynnau: www.NeuaddDwyfor.cymru